Mae artist drill o Benygroes yn dweud ei fod e wedi’i synnu o weld yr ymateb sydd wedi bod i’w gân ‘O Hyd’ i ddathlu tîm pêl-droed Cymru’n cyrraedd Cwpan y Byd.

Roedd Sage Todz yn un o’r perfformwyr wrth i Gymdeithas Bêl-droed Cymru gynnal digwyddiad yn Stadiwm Dinas Caerdydd heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 15) i ffarwelio â’r garfan wrth iddyn nhw adael Cymru am Qatar.

Bydd tîm Rob Page yn cystadlu yng Ngrŵp B yn erbyn yr Unol Daleithiau, Lloegr ac Iran ar ôl cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Yn yr wythnosau a’r misoedd cyn y gystadleuaeth, mae Yma O Hyd wedi dod yn anthem answyddogol ar raddfa na welwyd o’r blaen, fel ei bod hi bellach yn gân swyddogol Cymru ar gyfer Cwpan y Byd.

Mae’r fersiwn newydd gan Sage Todz yn rhan o bartneriaeth gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ac mae’r gân yn dechrau gyda sampl o’r gân wreiddiol o 1983.

Ond mae’n mynd yn ei blaen at rap gan Sage Todz, sy’n dweud “Dani yma. On the way to the top of game, ar y ffordd i dop y byd. Motsh gen i am awgrymiadau. Mae’r wlad ei hun yn fach. Ond mae’r ddraig yn pwyso tunnell”.

Ymhlith y dorf yn Stadiwm Dinas Caerdydd heddiw i wylio’r tîm yn ymarfer mewn sesiwn agored, ac i glywed gan rai o’r chwaraewyr, roedd plant ysgol o sawl ardal.

‘Rydan ni yna i guro’

“Mae’n crazy,” meddai Sage Todz wrth golwg360 am lwyddiant ei gân.

“Mae’n anhygoel jyst gweld sut mae pawb yn enjoio’r gân.

“O’n i ddim yn disgwyl o o gwbl.

“Dwi’n fwy na hapus efo’r ymateb.

“Dwi’n speechless, achos hyd yn oed heddiw, dw i’n gweld y plant efo gymaint o egni a jyst yn mynd yn wyllt dros y gân. Fedra’i ddim gofyn am ddim mwy.”

Ond faint o lwyddiant mae Sage Todz yn credu gaiff Cymru yn Qatar?

“Curo!” meddai, wrth broffwydo pa mor bell fyddan nhw’n mynd yn y twrnament.

That’s what we’re there for. Rydan ni yna i guro.”

A beth am neges i dîm Cymru?