Mae Phil Parkinson, rheolwr tîm pêl-droed Wrecsam, wedi beirniadu perfformiad y dyfarnwr a’r awdurdodau am ei benodi fe ar gyfer eu gêm fawr yn rownd gyn-derfynol gemau ail gyfle’r Gynghrair Genedlaethol.

Collodd Wrecsam o 5-4 ar ôl amser ychwanegol, ond mae Parkinson wedi beirniadu nifer o benderfyniadau’r dyfarnwr di-brofiad Adam Herczeg.

Roedd sawl penderfyniad dadleuol yn ystod yr ornest, ond fe wnaeth Wrecsam elwa a cholli allan yn sgil y penderfyniadau hynny ar y cyfan.

Serch hynny, dywed Parkinson nad oedd y dyfarnwr “yn ddigon da ar gyfer gêm ar y fath raddfa”, gan ddweud nad oedd e wedi siarad â fe wedi’r gêm achos doedd e “ddim eisiau siarad â fe” a’i fod e’n “gandryll”.

“Yn y lle cyntaf, llongyfarchiadau i Grimsby ar fynd drwodd, a phob lwc yn y ffeinal,” meddai.

“Mae rheolwyr da iawn yn yr adran hon eleni, pêl-droed wych hefyd, chwaraewyr da, torfeydd gwych.

“Ond sut gall yr awdurdodau roi dyfarnwr yn gyfrifol am gêm ar y raddfa hon fel hynny, mae hynny tu hwnt i’m hamgyffred i.

“Does dim bai arno fe i gyd, dylen ni fod wedi amddiffyn yn well.

“Roedd pawb yn y cae yn gallu gweld bod y dyfarnwr allan o’i ddyfnder.

“Gawson ni gôl a ddylai fod wedi cyfri, gawson ni ail gic o’r smotyn a ddylai fod yn gic o’r smotyn, cic rydd heb ei rhoi yn arwain at eu gôl gyntaf nhw…

“Os gallwn ni i gyd weld ei fod e allan o’i ddyfnder… gawson ni fe bythefnos yn ôl yn Dagenham. Sut maen nhw wedi ei roi e’n gyfrifol am gêm sy’n golygu cymaint i ddau glwb pêl-droed gwych?

“Dw i’n hollol gandryll.

“Roedd rhaid i fi dawelu’r bois hanner amser fel bod modd canolbwyntio ar y gêm, a dyw e ddim yn esgus, oherwydd rydyn ni wedi ildio goliau heddiw dydyn ni ddim fel arfer yn eu hildio.

“Ond roedd ei berfformiad [y dyfarnwr] heddiw yn gwbl annerbyniol.

“Dw i ddim eisiau siarad gyda fe, oherwydd dyw e ddim yn ddigon da i ddyfarnu gêm ar y fath raddfa hon.

“Rydych chi’n edrych ar y gemau ail gyfle mawr yn y gynghrair, a byddan nhw’n cael dyfarnwr o’r radd flaenaf oherwydd maen nhw’n gwybod fod cymaint yn y fantol.

“Doedd e ddim yn agos at fod yn ddigon da.”

Diwrnod mawr i Wrecsam

Mae tîm pêl-droed Phil Parkinson yn herio Grimsby am le yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Gynghrair Genedlaethol