Mae Bangor 1876 a Phorthaethwy wedi cymryd lle Dundee United a Dundee fel gêm ddarbi agosaf y Deyrnas Unedig.

Dim ond 0.2 milltir sydd rhwng Tannadice a Dens Park tra bod caeau cartref Bangor 1876 a Porthaethwy 40 llath oddi wrth ei gilydd.

Mae yno bont yn gwahanu Bangor a Phorthaethwy, ond mae’r clwb o Ynys Môn bellach yn chwarae ym Mangor.

Cynhaliwyd y gêm gyntaf erioed rhwng Bangor 1876 a Phorthaethwy mewn cystadleuaeth cwpan leol yn gynnar yn 2020.

Maen nhw wedi chwarae yn erbyn ei gilydd unwaith eto ar ôl hynny, gyda 16 o goliau yn cael eu sgorio ar draws y ddwy ornest.