Dim ond 20 oed yw Dylan Levitt, ond mae’r chwaraewr canol cae ar fin cyrraedd lefel ucha’r byd pêl-droed fel aelod o garfan Cymru yn yr Ewros.

Daeth ei unig gêm i Manchester United hyd yn hyn yn 2019, wrth chwarae ochr yn ochr â Mason Greenwood, Jesse Lingard a Luke Shaw yn erbyn Astana yng Nghynghrair Europa.

Ac fel aelod o’r garfan yn Old Trafford, mae e’n cael ymarfer ochr yn ochr â nifer o sêr eraill y byd pêl-droed.

Ond mae e’n cyfaddef iddo deimlo’r “gwallgofrwydd” o gael chwarae ar y lefel ryngwladol gyda nifer o hoelion wyth Cymru.

“Mae llawer o enwau mawr yn United ond wedyn, wrth ddod yma a gwylio Cymru pan o’n i’n iau – Bale, Ramsey, Joe Allen, hyd yn oed Ashley Williams, roedd hi jyst yn wallgo’.

“Maen nhw wedi bod ar y lefel uchaf ers cynifer o flynyddoedd bellach.”

Codi drwy rengoedd Cymru

Ers yr unig ymddangosiad hwnnw yng nghrys coch Manchester United, mae e wedi treulio cyfnodau ar fenthyg yn Charlton – lle chwaraeodd e bum gêm yn unig – ac wedyn yn Istra 1961 yng Nghroatia, oedd wedi ei helpu i godi ei gêm i lefel newydd, meddai.

Mae e wedi codi drwy rengoedd Cymru’n gyflym hefyd, gan gynrychioli’r timau dan 17, 19 a 21 cyn cael ei alw i’r brif garfan am y tro cyntaf ym mis Mai 2019.

Ond roedd rhaid iddo fe aros am ei gap cyntaf, a ddaeth yn y pen draw yn erbyn y Ffindir fis Medi’r llynedd.

Ac yntau wedi’i enwi yn y garfan baratoadol i Bortiwgal ddeufis yn ôl, mae’n cyfaddef ei fod e’n teimlo’n “50-50” bryd hynny am ei obeithion o fod ar yr awyren i Baku.

“Ro’n i ar frys i fynd i Groatia i drio chwarae ac ro’n i’n gobeithio y byddai’n talu ar ei ganfed,” meddai.

“Roedd y cyfan yn 50-50 mewn gwirionedd.

“Fe wnes i chwarae fy ngêm wrth ymarfer a gwneud yr hyn ro’n i’n arfer ei wneud.

“Doedd dim wir angen i fi drio’n rhy galed oherwydd, weithiau, os ydych chi’n trio’n rhy galed mae’n gallu bod yn ormod.

“Rhaid i chi drio chwarae eich gêm eich hun yn y gwersyll.”