Bydd Caernarfon yn herio’r Drenewydd yn yr Oval ddydd Sadwrn (Mai 29) yn rownd derfynol gemau ail-gyfle’r Cymru Premier, gyda’r enillydd yn sicrhau lle yng Nghyngres Europa y tymor nesaf – ond ni fydd cefnogwyr yn cael bod yn bresennol.

Trechodd Caernarfon y Barri o 3-1 yn rownd gynderfynol y gemau ail-gyfle dros y penwythnos, ac enillodd y Drenewydd 1-0 yn erbyn Penybont.

Roedd pwysau ar Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ganiatáu nifer cyfyngedig yn y rownd derfynol gemau.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd newid pellach a fyddai’n caniatáu presenoldeb cefnogwyr tan fis Mehefin ar y cynharaf

“Mae’r Prif Weinidog wedi dweud,” meddai llefarydd ar ran Llywdoraeth Cymru wrth golwg360, “os yw sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau’n gadarnhaol, yn yr adolygiad tair wythnos nesaf ddechrau mis Mehefin, byddwn yn ystyried symud i rybudd lefel un.”

“Gallai [hyn] ganiatáu i ddigwyddiadau mwy a gweithgareddau wedi’u trefnu gael eu cynnal, wedi’u llywio gan y rhaglen o ddigwyddiadau peilot sydd ar y gweill ar hyn o bryd.”

Mae’r “rhaglen o ddigwyddiadau peilot” yna wedi cynnwys gemau timau Cymru sy’n chwarae dros y ffin, gan arwain at gyhuddiad fod Llywodraeth Cymru wedi “anghofio” am gynghrair Cymru.

Galwadau

Ymhlith y rhai oedd wedi galw am ganiatáu cefnogwyr yn y rownd derfynol mae Siân Gwenllian, yr Aelod o’r Senedd dros Arfon.

Mewn llythyr at Vaughan Gething, sy’n gyfrifol am ‘ddigwyddiadau mawr’ fel rhan o bortffolio’r economi, a Dawn Bowden, Y Dirprwy Weinidog Chwaraeon, dywedodd Siân Gwenllian AoS: “Bydd enillydd y gêm yn sicrhau lle yng nghystadleuaeth Cyngres Europa y flwyddyn nesaf.

“Dyma’r gêm bwysicaf yn hanes Tref Caernarfon ac mae llawer o gyffro ymhlith eu cefnogwyr.

“Ond ar hyn o bryd nid oes hawl gan y cefnogwyr fynd i’r cae i gefnogi eu tîm.

“Rwy’n credu ei bod yn amserol defnyddio’r ornest hon i dreialu’r protocolau newydd y mae angen iddynt fod ar waith erbyn mis Awst pan mae gobaith y bydd 300 o glybiau yn ailagor eu drysau i’w cefnogwyr.

“Byddai’n gwneud synnwyr penderfynu ar gapasiti is o gefnogwyr a rhoi rhagofalon diogelwch priodol ar waith ar ôl cynnal asesiad risg yn yr Oval.”

“Gêm mor fawr”

Dyn arall sydd o’r farn y dylai cefnogwyr gael mynychu’r gêm ydi Paul Evans, Cadeirydd Clwb Pêl-droed Caernarfon.

“Mae o’n rhwystredig ofnadwy ac yn gwneud dim synnwyr fod pobol yn cael mynd i pubs i wylio hi ysgwydd i ysgwydd a ddim yn cael dod i’r cae,” meddai wrth golwg360.

“Rydan ni’n poeni o ran yr ochr iechyd a diogelwch hefyd oherwydd trwy’r tymor mae yna rhwng 70 a 100 o gefnogwyr yn gwylio y tu allan i’r cae ar ben sgaffold, ystolion ac yn y blaen.

“Fedra i feddwl y bydd yno dipyn yn fwy o gwmpas y cae ddydd Sadwrn a hithau’n gêm mor fawr.

“Y ffordd ’da ni’n ei gweld hi mae hi’n saffach gadael nhw mewn i’r cae nag ar ben ystolion a ballu.”

Cefnogwyr penderfynol yn dod o hyd i ffordd o wylio’r gemau

“Anghofio” am y Cymru Premier

Mae Paul Evans yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o “anghofio” am dimau’r Cymru Premier.

“Fedra i ddim dallt sut mae Mr Drakeford yn gadael i dimau Cymru sy’n chwarae yn y system Saesneg chwarae o flaen cefnogwyr pan dydi o ddim yn gadael i ni wneud.

“Mae o’n edrych fel ei fod o’n cefnogi timau sy’n chwarae yn y system Saesneg o flaen y system Gymraeg.

“Dydi hynna yn gwneud dim synnwyr.

“Does yna neb yn ein clwb ni sydd ddigon gwirion i feddwl mai jyst mater o agor y turnstiles ydi o a gadael pawb i mewn fel yr arfer.

“Rydan ni’n dallt y byddai angen Track and Trace, talu o flaen llaw ac yn y blaen, rydan ni’n dallt y petha ’ma.”

Gêm fwyaf yn hanes y clwb

Mae Paul Evans yn credu mai’r gêm ddydd Sadwrn ydi’r “gêm fwyaf” yn hanes Clwb Pêl-droed Caernarfon.

“Dw i ddigon hen i gofio gemau mawr Caernarfon yn FA Cup [Lloegr] yn yr 80au sy’n dal i gael eu trafod heddiw yn y dref.

“Ond mae hon dw i’n meddwl yn gêm fwy nag unrhyw un o’r gemau yna.

“Os fysan ni’n ennill mi allai hynny newid dyfodol y clwb oherwydd mi fasa’r arian sydd ar gael jyst i chwarae un gêm yn Ewrop yn gallu rhoi sylfaen da i ni am y blynyddoedd i ddod.

“Fel yna dw i’n gweld hi eniwe.”

“Dim ffydd yn y Llywodraeth”

Mae Tomos Huw Owen, sy’n gefnogwr Caernarfon, yn credu fod y diffyg trefniadau ar gyfer cefnogwyr yn “dangos agwedd y Llywodraeth tuag at y gogledd yn gyffredinol”.

“Mae yno lwyth o ddigwyddiadau eraill y tu allan i bêl-droed wedi cael eu trefnu yn y de, ond dim byd yn y gogledd,” meddai wrth golwg360.

“Ac wrth gwrs mae o’n rhwystredig gweld cefnogwyr timau fel Abertawe a Chasnewydd yn cael mynd i gefnogi eu timau tra mae clybiau fel ni ddim yn cael.

“Mae angen iddyn nhw edrych ar logic y peth, mae o’n boncyrs cael stadiwm wag a gorfodi cefnogwyr i eistedd mewn tafarn packed a gwylio’r gêm ar Sgorio.

“Rhaid iddyn nhw feddwl mewn difrif, ydan ni isio llwyth o bobol yn eistedd mewn un ystafell yn gwylio’r gêm ta yda ni isio nhw wylio hi’n sâff yn yr awyr agored.”

Ychwanegodd Tomos fod yno rwystredigaeth ymysg trigolion Caernarfon ynglyn â’r sefyllfa.

“Mae pobl reit flin, ond mae o fel petai nhw’m yn disgwyl llawer gan Lywodraeth Cymru chwaith rili.

“Mae lot fwy neu lai wedi derbyn mai fel hyn mae pethau, s’ganddyn nhw’m ffydd yn y Llywodraeth na Chymdeithas Bêl-droed Cymru i wneud y peth iawn.”

“Anodd iawn i’w stumogi”

Wrth siarad â BBC Cymru nos Wener (Mai 21), dywedodd Gwyn Derfel, Ysgrifennydd Cymru Premier: “Ar Fai 11 pan gafodd naw o ddigwyddiadau prawf eu cyhoeddi… cawson ni wybod nad oedden ni’n mynd i fod yn un ohonyn nhw,” meddai Gwyn Derfel.

“Tynnodd un o’r digwyddiadau prawf yn ôl ac unwaith eto, fe wnaethon ni gynnig ein gwasanaeth a dywedwyd wrthym ‘Na, rydyn ni’n cadw at wyth digwyddiad prawf’.

“Mae hi’n ymddangos yn eithaf clir i ni fod y Llywodraeth ddatganoledig sydd wedi’i lleoli yng Nghymru’n ffafrio’r timau Cymreig sy’n chwarae yn y system byramid yn Lloegr dros y timau sy’n chwarae yn system byramid Cymru.

“Mae hynny’n beth anodd iawn i’w stumogi, yn enwedig ar ôl i ni gydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru dros y 14 i 15 mis diwethaf.

“Rydyn ni jyst yn teimlo ei fod yn gyfle wedi’i golli gan yr awdurdodau hefyd.”

Crynodeb Cymru Premier (22/05/21-23/05/21)

Gemau ail gyfle Ewropeaidd Uwch Gynghrair Cymru