Mae adroddiadau bod Oli McBurnie, cyn-ymosodwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi cael ei arestio ar ôl i fideo ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n awgrymu iddo fod yng nghanol ffrwgwd ar y stryd.

Chwaraeodd yr Albanwr 24 oed 58 o weithiau i’r Elyrch rhwng 2015 a 2019, gan sgorio 22 o goliau cyn ymuno â Sheffield United yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae’r fideo wedi’i gwylio bron i filiwn o weithiau, ac mae’n dangos dau ddyn yn gweiddi a ffôn symudol yn cael ei bwrw allan o law un o’r ddau ddyn cyn sathu arni.

Dywed yr heddlu fod dyn 21 oed wedi cael anafiadau i’w wyneb, a’u bod nhw wedi cael gwybod am y digwyddiad honedig.

Dywed Clwb Pêl-droed Sheffield United fod ymchwiliad ar y gweill, ond mae Heddlu Gogledd Swydd Efrog yn dweud nad ydyn nhw wedi cael gwybod am y digwyddiad yn ardal Knaresborough ond maen nhw’n annog pobol i roi gwybod iddyn nhw os oes ganddyn nhw fanylion.

Helynt

Nid dyma’r tro cyntaf i Oli McBurnie ei gael ei hun mewn helynt.

Y llynedd, cafodd e ddirwy o £28,500 am yfed a gyrru ar ôl i blismon ei weld e’n gyrru ar gyflymdra “hurt” yn ei Audi fis Hydref 2019.

Aeth e gerbron ynadon yn Leeds, ac fe gafodd ei wahardd rhag gyrru am 12 mis.