Roedd hi’n benwythnos olaf y tymor arferol yn y Bencampwriaeth a’r cynghreiriau is yn Lloegr y penwythnos hwn. Cyfle olaf felly i rai o chwaraewyr Cymru wneud argraff ar Rob Page cyn iddo enwi ei garfan hyfforddi ar gyfer yr Ewros yn hwyrach y mis hwn.

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Gwylio o’r fainc a wnaeth Danny Ward wrth i’w dîm, Caerlŷr, ildio pedair yn annisgwyl yn erbyn Newcastle nos Wener.

Dechreuodd Tyler Roberts i Leeds a Gareth Bale i Tottenham wrth i’r ddau dîm wynebu ei gilydd yn y gêm gynnar ddydd Sadwrn. Y tîm cartref a aeth â hi o dair i un ar Elland Road gyda Roberts yn chwarae’i ran mewn symudiad tîm da a arweiniodd at yr ail gôl i Patrick Bamford.

Ymddengys fod Joe Rodon wedi diflannu oddi ar y radar ers i Ryan Mason gymryd yr awenau yn Spurs. Nid yw’r amddiffynnwr wedi chwarae i’r rheolwr dros dro ac nid oedd yn y garfan eto ar gyfer y gêm hon. Cadarnhaodd Sam Rodon, cyn chwaraewr Hwlffordd ac Aberystwyth, ar y cyfryngau cymdeithasol nad yw ei frawd wedi’i anafu.

Rydym yn gwybod mai anaf sydd yn cadw’r amddiffynnwr arall o Gymru allan o garfan Tottenham ond roedd newyddion da am ffitrwydd Ben Davies yr wythnos hon, gyda Rob Page yn hyderus iawn y bydd yn ffit ar gyfer yr Ewros.

Nid oedd golwg o Wayne Hennessey nag Ethan Ampadu yng ngharfanau Crystal Palace a Sheffield United wrth i’r ddau dîm wynebu ei gilydd ddydd Sadwrn.

Roedd dau Gymro ar fainc Lerpwl ar gyfer eu buddugoliaeth hwy yn erbyn Southampton yn y gêm hwyr. Dim syndod gweld Neco Williams arni ond achlysur prin iawn i Ben Woodburn wrth i’r ymosodwr gael ei wobrwyo am berfformiadau da i’r tîm dan 23 yn ddiweddar.

Methodd Dan James gêm Man U yn Aston Villa gydag anaf ac nid oedd Neil Taylor yng ngharfan y tîm cartref ychwaith.

Ar y fainc yr oedd Hal Robson-Kanu yn y gêm hwyr wrth i West Brom deithio i wynebu clwb ei blentyndod, Arsenal.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Barnsley a fydd gwrthwynebwyr Abertawe yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle wedi i’r Elyrch orffen yn bedwerydd yn y tabl er gwaethaf colled yn Watford ar Sadwrn olaf y tymor arferol.

Colli o ddwy gôl i ddim a wnaethant er gwaethaf perfformiad calonogol ac roedd gêm i Connor Roberts fel cefnwr de a Liam Cullen yn y llinell flaen. Ymddangosodd Oli Cooper oddi ar y fainc am yr hanner awr olaf hefyd.

Brentford a Bournemouth a fydd yn brwydro yn y gêm gynderfynol arall wedi i Bournemouth orffen yn chweched oherwydd colled gartref yn erbyn Stoke. Dechreuodd David Brooks yn ôl ei arfer ac roedd ymddangosiad prin oddi ar y fainc i Chris Mepham hefyd wrth i’r Cherries golli o ddwy gôl i ddim.

Dechreuodd tri Chymro’r gêm i Stoke, Adam Davies yn y gôl, Rhys Norrington-Davies yn yr amddiffyn a Rabbi Matondo yn yr ymosod. Daeth dau arall oddi ar y fainc ar gyfer yr eiliadau olaf, yr hen a’r ifanc, Sam Vokes a Chris Norton. Ac er nad oedd golwg o Joe Allen yng ngharfan ei glwb ar ddiwrnod olaf y tymor, roedd Rob Page yn swnio’n hyderus wrth drafod ffitrwydd y chwaraewr canol cae’r wythnos hon.

Gorffen y tymor gyda gyda gêm gyfartal gôl yr un a wnaeth Caerdydd wrth groesawu Rotherham i Stadiwm y Ddinas, canlyniad mwy arwyddocaol i’r gwrthwynebwyr na’r Adar Gleision mewn gwirionedd, gan ei fod yn anfon Rotherham i lawr i’r Adran Gyntaf.

Dechreuodd tri Chymro yn y llinell flaen i Mick McCarthy, Harry Wilson, Rubin Colwill a Kieffer Moore. Daeth Jonny Williams a Mark Harris oddi ar y fainc yn yr ail hanner ac yn wir, Harris a greodd y gôl hwyr i Marlon Pack a achubodd bwynt i’w dîm ac anfon Rotherham i lawr.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Shaun MacDonald i Rotherham yn y gêm hon. Bydd y cyn Alarch a’r chwaraewr rhyngwladol yn 33 erbyn dechrau’r tymor nesaf a go brin y gwelwn ef yn chwarae ar y lefel hon eto.

Y tîm a wnaeth elwa o gôl hwyr Caerdydd a oedd Derby, yn aros i fyny diolch i gêm gyfartal yn erbyn tîm arall a oedd yn ei chanol hi, Sheffield Wednesday. Chwaraeodd Tom Lawrence i Derby, yn chwarae ei ran, yn creu gôl gyntaf o ddwy Martyn Waghorn wrth iddi orffen yn dair gôl yr un.

Yn dechnegol, roedd Wycombe yn rhan o’r frwydr ar y gwaelod hefyd ond roedd angen buddugoliaeth enfawr arnynt hwy a dibynnu ar ganlyniadau eraill. Nid oedd gobaith mewn gwirionedd ond fe wnaeth y Wanderers ffarwelio â’r gynghrair mewn steil gyda buddugoliaeth o dair gôl i ddim yn Middlesbrough. Dechreuodd Joe Jacobson y gêm ac roedd ymddangosiad prin oddi ar y fainc i Alex Samuel.

QPR a aeth â hi yn y frwydr ganol tabl rhyngddynt a Luton ar Ffordd Kenilworth. Bu bron i George Thomas sgorio ar ôl dod oddi ar y fainc wrth i’w dîm ennill o dair gôl i un. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Joe Morrell i Luton yn dilyn tymor hynod siomedig ar lefel clwb.

Hefyd yng nghanol y tabl, fe orffennodd Preston ei tymor gyda buddugolaieth o ddwy i un yn Nottingham Forest. Chwaraeodd Andrew Hughes a Ched Evans y gêm, gyda Evans yn creu’r gôl fuddugol i Liam Lindsay.

Dechreuodd Tom Bradshaw i Millwall am y drydedd gêm yn olynol ond prynhawn i’w anghofio oedd o i’r dyn o Dywyn wrth i’w dîm golli o chwe gôl i un yn erbyn Coventry.

 

*

 

Cynghreiriau is

Derbyniodd Chris Maxwell deitl ‘Maneg Aur’ yr Adran Gyntaf yr wythnos hon ar ôl cadw ei unfed llechen lân ar hugain yn y fuddugoliaeth ganol wythnos yn erbyn Doncaster. Sicrhaodd y fuddugoliaeth honno le ei dîm yn y gemau ail gyfle a gydag un llygad ar y gemau hynny, cafodd y Cymro ei orffwyso ar gyfer y fuddugoliaeth yn erbyn Bristol Rovers ddydd Sul.

Yn ymuno â hwy yn y gemau ail gyfle y bydd Lincoln, a oedd hefyd wedi diogelu eu lle cyn gêm gyfartal yn erbyn Wimbledon ar ddiwrnod olaf y tymor arferol. Chwaraeodd Declan Poole a Brennan Johnson ac yn wir, Johnson a oedd yn edrych yn fwyaf tebygol o rwydo mewn gêm ddi sgôr.

Methu ar le yn y chwech uchaf ar wahaniaeth goliau’n unig a wnaeth Charlton er gwaethaf buddugoliaeth yn erbyn y pencampwyr, Hull, ar y diwrnod olaf. Chwaraeodd Adam Matthews y gêm gyfan ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Chris Gunter.

Roedd pethau wedi eu setlo ym mhen arall y tabl cyn y Sul olaf, sydd yn egluro pam y cafodd seren Wigan dros yr wythnosau diwethaf, Lee Evans, ei orffwyso ar gyfer gêm olaf y tymor, colled o bedair gôl i dair yn erbyn Swindon.

Sgoriodd dau Gymro yn y gêm rhwng Ipswich a Fleetwood ar Portman Road. Rhwydodd Gwion Edwards i’r tîm cartref wrth iddynt ruthro dair gôl ar y blaen yn yr hanner awr cyntaf. Gadawodd Edwards y cae gydag anaf yn fuan ar ôl ei gôl ond chwaraeodd Dave Cornell y gêm gyfan yn y gôl.

Tynodd Wes Burns un yn ôl i Fleetwood yn yr ail hanner i goroni tymor da iawn iddo ef yn bersonol. Gorffennodd cyn ddisgybl Ysgol Gyfun Bro Morgannwg y tymor gyda phum gôl ar ôl chwarae’r rhan fwyaf ohono fel cefnwr neu ôl-asgellwr.

Colli yn erbyn Peterborough a fu hanes Doncaster yng ngêm olaf y tymor gyda Matthew Smith yn chwarae am y tro olaf cyn i’w gyfnod ar fenthyg gyda’r clwb ddod i ben. Mae’r chwaraewr canol cae wedi cael tymor da ond nid yw’n mynd i dorri i dîm cyntaf Man City felly mae’n siwr y bydd yn targedu symudiad parhaol dros yr haf, i dîm yn y Bencampwriaeth gobeithio.

Tymor o ddau hanner a oedd o i Luke Jephcott gyda Plymouth. Roedd y blaenwr ar dân yn hanner cyntaf y tymor ond sychodd y goliau yn y misoedd olaf a chafodd brynhawn diffrwyth arall o flaen gôl ar y Sul olaf ar ôl dod i’r cae fel eilydd hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Roedd angen pwynt ar Gasnewydd i wneud eu lle yn safleoedd ail gyfle’r Ail Adran yn berffaith ddiogel wrth ymweld â Southend ar Sadwrn olaf y tymor arferol. Ac er nad oedd ei angen arnynt yn y diwedd oherwydd canlyniadau eraill, fe gadwodd yr Alltudion eu hochr hwy o’r fargen gyda gêm gyfartal gôl yr un.

Dechreuodd Liam Shephard, Josh Sheehan a Lewis Collins i’r tîm o Gymru ond daeth y cyfraniadau mwyaf gan Aaron Lewis a Tom King yn yr ail hanner; Lewis yn creu’r gôl i Mickey Demetriou a unionodd y sgôr cyn i King arbed cic o’r smotyn i’w chadw hi’n gyfartal.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Cyrhaeddodd Hibernian rownd derfynol Cwpan yr Alban gyda buddugoliaeth yn erbyn Dundee Utd yn y rownd gynderfynol ar Barc Hampden ddydd Sadwrn. Dwy gôl i ddim oedd hi gyda Christian Doidge yn rhwydo’r eil, er ei fod yn camsefyll!

Mae gobeithion Owain Fôn Williams o chwarae yn Uwch Gynghrair yr Alban y tymor nesaf ar ben wedi i Dunfermline golli yn rown go-gynderfynol y gemau ail gyfle ddydd Sadwrn. Yn dilyn gêm gyfartal ddi sgôr oddi cartref yn erbyn Raith Rovers nos Fawrth, collodd Dunfermline yr ail gymal o ddwy gôl i ddim.

 

 

Colli’n drwm a fu hanes St. Pauli yn y 2. Bundesliga nos Wener, noson anodd i James Lawrence yng nghanol yr amddiffyn wrth i Holstein Kiel ennill o bediar gôl i ddim.

Nid oedd Dylan Levitt yng ngharfan NK Istra yng Nghroatia nos Wener na Robbie Burton i Dinamo Zagreb ddyd Sul.

Roedd hi’n gêm enfawr yn y frwydr am y pedwar uchaf yn Serie A nos Sul wrth i Juventus groesawu Milan ond dechrau ar y fainc a wnaeth Aaron Rasmey.

 

*

 

Gwilym Dwyfor