Mae Andy Morrison, rheolwr Cei Connah, wedi dweud bod “neb yn mynd i roi’r teitl i ni” ar ôl i’w dîm ddod un cam yn agosach at gael eu coroni’n Bencampwyr Cymru neithiwr (Mai 5).

Roedd hi’n noson fawr yn y Cymru Premier, gyda Cei Connah yn curo’r Barri o 2-1 mewn gêm agos, tra bod y Seintiau Newydd wedi trechu Penybont 3-0.

Dim ond dau bwynt sy’n gwahanu’r ddau dîm gyda dwy gêm yn weddill, ac mae Cei Connah yn ceisio cael eu coroni’n Bencampwyr Cymru am yr ail dymor yn olynol.

“Trystia fi, does neb yn mynd i roi’r teitl i ni”

Wrth ymateb i’r gêm, dywedodd Andy Morrison bod yn rhaid i’w dîm delio â “sefyllfaoedd sy’n codi yn y gêm” a “gwneud beth rydan ni’n ei wneud” yn hytrach na delio a phwysau’r ddwy gêm olaf.

Ychwanegodd: “Trystia fi, does neb yn mynd i roi’r teitl i ni.

“Mae pawb eisiau stopio Pencampwyr y tymor diwethaf, ac maen nhw eisiau atal tîm rhag dod yn Bencampwyr.”

Bydd Cei Connah yn herio Caernarfon, yn fyw ar S4C, ddydd Sadwrn (Mai 8), tra bod y Seintiau Newydd chwarae yn erbyn y Barri.