Aberystwyth 3-1 Derwyddon Cefn

Y syndod mwyaf wrth edrych ar y frwydr yma efallai oedd mai dim ond pum pwynt a oedd yn gwahanu’r ddau dîm cyn dechrau’r gêm ar Goedlan y Parc.

Roedd Aber ben ac ysgwydd uwch ben y Derwyddon wrth ennill o dair i un. Canlyniad sydd yn cadw Cefn ar y gwaelod ac yn rhoi anogaeth i Aberystwyth dargedu’r seithfed safle wedi’r hollt.

Taro tair gyflym

Aeth y tîm cartref â’r gêm o afael yr ymwelwyr gyda thair gôl yn y 25 munud agoriadol.

Agorodd John Owen y sgorio wedi dim ond tri munud wedi tafliad hir i’r cwrt cosbi cyn i Matthew Jones ddyblu’r fantais o’r smotyn bedwar munud yn ddiweddarach.

Y llanc ifanc sydd ar fenthyg o’r Seintiau Newydd, Louis Bradford, a gafodd y drydedd wedi i’r Derwyddon amddiffyn fel tîm sydd ar waelod y tabl ond yn annhebygol o fynd i lawr.

Mae’n debyg y daw cadarnhad o hynny wrth i’r Gymdeithas gyfarfod yr wythnos hon ac efallai y bydd hynny’n fwy o gysur i Cefn na gôl hwyr Alex Darlington yn y gêm hon.

 

*

 

Met Caerdydd 1-2 Y Barri

Y Barri aeth â hi yn y gêm ddarbi yn erbyn Met Caerdydd ar Gampws Cyncoed. Cael a chael oedd hi serch hynny ac roedd angen gôl hwyr Evan Press ar dîm Gavin Chesterfield.

Press yn gwasgu’r botymau cywir

Wedi hanner cyntaf di sgôr, fe aeth y Barri ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod gyda gôl gan Nat Jarvis yn dilyn symudiad wedi ei ddechrau gan bas dreiddgar Press o ganol cae.

Unionodd Emlyn Lewis wedi hynny ac roedd hi’n anelu am gêm gyfartal cyn i gôl hwyr Press gipio’r fuddugoliaeth i’r ymwelwyr.

 

*

 

Penybont 2-0 Hwlffordd

Penybont a aeth â hi wrth iddynt groesawu Hwlffordd i Stadiwm SDM Glass yng ngêm fawr y dydd o flaen camerâu Sgorio.

Roedd angen buddugoliaeth o leiaf ar Hwlffordd i orffen yn y chwech uchaf, un o dair gôl i wneud yn berffaith saff, heb orfod dibynnu ar ganlyniad Caernarfon. Y cwbl yr oedd Penybont angen ei wneud oedd osgoi colli o dair gôl i sicrhau nad oedd Hwlffordd yn eu goddiweddyd yn y tabl

Diffyg uchelgais Hwlffordd

O ystyried mai Hwlffordd a oedd angen ennill y gêm, roedd yr ymwelwyr yn hynod siomedig a chafodd y gêm ei rheoli gan y tîm cartref.

Doedd fawr o syndod gweld Sam Snaith yn eu rhoi ar y blaen yn hwyr yn yr hanner cyntaf gyda pheniad rhydd o gic gornel Kane Owen. Wojciech Gajda a oedd yn y gôl i Hwlffordd yn dilyn anaf cynharach i Matthew Turner ac fe ddylai’r eilydd fod wedi gwneud yn well ar ôl cael dwy law i ymdrech Snaith.

Mael i gyd

Gwnaeth Gajda yn iawn am ei gamgymeriad cynharach gydag arbediad da i atal ymdrech tin-dros-ben Snaith yn gynnar yn yr ail hanner ond dim ond mater o amser a oedd hi cyn i Benybont ddyblu’r fantais.

Ac am gôl oedd hi; Mael Davies yn dechrau’r symudiad gyda sgiliau pert yng nghanol cae cyn ei orffen gydag ergyd isel gywir o ugain llath a mwy.

Roedd sgowtiaid yn y gêm yn gwylio Davies yn ôl pob tebyg ac ni wnaeth y chwaraewr canol cae siomi.

Heb drwydded Ewropeaidd mae’n rhaid cwestiynu awch Hwlffordd i orffen yn y chwech uchaf ac nid oeddynt yn edrych fel tîm a oedd yn taflu popeth i geisio ennill y gêm yn yr hanner awr olaf mewn gwirionedd.

Mae’r canlyniad yn gadael yr Adar Gleision yn seithfed ac yn sicrhau lle Penybont yn y chwech uchaf, yn y pumed safle. Ddim yn rhy ddrwg i dîm a wnaeth osgoi’r gwymp o drwch blewyn y tymor diwethaf.

 

*

 

Y Bala 5-0 Y Fflint

Daeth rhediad gwael diweddar y Bala i ben wrth iddynt roi crasfa i’r Fflint ar Faes Tegid.

Roedd tîm Colin Caton wedi colli tair yn olynol cyn croesawu’r tîm sy’n ail o’r gwaelod, ond nid oedd perygl i’r rhediad hwnnw barhau wrth iddynt rwydo pump.

Gôl y gêm

Roedd gôl gyntaf y gêm yn un wych, Lassana Mendes yn curo’i ddyn ar ochr y cwrt cosbi cyn crymanu perl o ergyd dros y golwr.

Dyblodd Antony Kay y fantais yn gynnar yn yr ail hanner cyn i Chris Venables roi cystadleuaeth i Mendes am gôl y gêm gyda tharan o ergyd i do’r rhwyd o ochr y cwrt cosbi.

Ar ôl creu honno i Venables, fe rwydodd Steve Leslie’r bedwaredd ei hun ac nid oedd hon yn ergyd rhy siabi chwaith! Rhwydodd Venners ei ail ef a phumed ei dîm i gwblhau’r gweir ac mae prif sgoriwr y gynghrair bellach wedi sgorio 19 y tymor hwn mewn dim ond 22 gêm.

 

*

 

Y Drenewydd 1-5 Cei Connah

Arhosodd Cei Connah ar frig y tabl gyda buddugoliaeth swmpus yn erbyn y Drenewydd ar Barc Latham, a hynny er iddynt fynd ar ei hôl hi yn gynnar yn y gêm.

Breese yn mynd fel y gwynt

Roedd hi’n ymddangos ei bod am fod yn brynhawn anodd i amddiffyn Cei Connah pan roddodd Jamie Breese y Drenewydd ar y blaen wedi dim ond tri munud, yn mynd fel y gwynt wrth guro Danny Holmes a Kris Owens mewn ras cyn rhwydo.

Yn ôl y daeth y pencampwyr serch hynny gyda phum gôl i’w hennill hi’n gyfforddus yn y diwedd.

Unionodd Craig Curran cyn yr egwyl cyn i’r profiadol, Neil Danns, eu rhoi ar y blaen yn yr ail hanner, gôl gyntaf y gŵr 38 oed dros y clwb.

Ychwanegodd Callum Morris un o’r smotyn wedi hynny cyn i Mike Wilde a Jamie Insall sgorio dwy gôl hwyr i droi’r fuddugoliaeth yn grasfa.

 

*

 

Y Seintiau Newydd 4-1 Caernarfon

Roedd angen pwynt ar Gaernarfon yn erbyn y Seintiau Newydd ar Neuadd y Parc i sicrhau eu lle yn y chwech uchaf.

Colli’n drwm a fu eu hanes ond yn ffodus i’r Cofis, methodd Hwlffordd a manteisio a chadwodd tîm Huw Griffiths eu gafael ar y chweched safle.

‘Megs’

Wyth munud yn unig a oedd ar y cloc pan beniodd Blaine Hudson y Seintiau ar y blaen o groesiad Ben Clark ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Dyblodd Ryan Brobbel yn fantais yn gynnar yn yr ail hanner cyn rhwydo ei ail ef a thrydedd ei dîm ugain munud o’r diwedd. Roedd hon yn glasur; ‘megs’ i Cai Jones ac ergyd wych i’r gornel uchaf o bum llath ar hugain.

Roedd ail i Hudson wedi hynny hefyd cyn i Paulo Mendes gipio gôl gysur hwyr i’r ymwelwyr.

Bricsen arall yn y wal

Daeth newyddion mawr gan y Seintiau Newydd yn dilyn y gêm wrth iddynt gyhoeddi enw eu rheolwr newydd.

Mae cryn ddyfalu wedi bod ers i Scott Ruscoe gael ei ddi swyddo ychydig wythnosau yn ôl ac fe ddatgelodd y clwb cyn y gêm eu bod wedi gwneud penodiad cyn datgelu’r enw ar ôl y chwiban olaf. Cyn is-reolwr Grimsby a rheolwr Woking, Anthony Limbrick, yw’r gŵr a fydd yn cymryd yr awenau.

Na, na finnau chwaith.

 

Gwilym Dwyfor