Mae amheuaeth ynghylch dyfodol Jonathan Ford fel prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae Ford yn parhau i fod yn brif weithredwr am y tro – mae lle i gredu ei fod bellach ar ‘absenoldeb garddio’ – ond roedd mae golwg360 yn deall fod Cyngor y Gymdeithas Bêl-droed wedi cyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn mewn cyfarfod neithiwr (nos Lun, Chwefror 22).

Mae adroddiadau bod llawer o glybiau yng Nghymru wedi eu siomi gan y ffordd y mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ymdrin â pandemig Covid-19 – a’r methiant canfyddedig i’w cefnogi yn ystod yr argyfwng.

Fodd bynnag, mae Wales Online yn adrodd mai’r ysgogiad ar gyfer y bleidlais dim hyder oedd penodiad diweddar Angela van den Bogerd i swydd ‘Pennaeth Pobl’ yn y Gymdeithas Bêl-droed.

Angela van den Bogerd oedd cyfarwyddwr gwella busnes Swyddfa’r Post yn faenorol, ac fe’i beirniadwyd gan farnwr mewn achos sy’n deillio o garcharu grŵp o bostfeistri ar gam.

Yn gynharach heddiw, dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas Bêl-droed wrth golwg360 fod Jonathan Ford yn dal yn ei swydd ac nad oedd “bwriad cyhoeddi datganiad” am y tro.

Cefndir

Ymunodd Ford, a oedd gynt yn ‘Gyfarwyddwr Nawdd Chwaraeon Ewropeaidd’ yng nghwmni Coca-Cola, â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ym mis Rhagfyr 2009.

Byddai ei ymadawiad yn ychwanegu at broblemau Cymru fis yn unig cyn dechrau eu hymgyrch gymhwyso yng Nghwpan y Byd 2022, ac ychydig mwy na thri mis cyn rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop 2020.

Cafodd y rheolwr Ryan Giggs ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ei gariad yn ei gartref ym Manceinion ar 1 Tachwedd ac mae’r achos yn cael ei ystyried ar hyn o bryd gan Wasanaeth Erlyn y Goron.

Uwchgynghrair JD Cymru ac Uwchgynghrair Merched Cymru i gael dychwelyd

Caiff cadarnhad ynghylch dyddiadau newydd y gemau y bu’n rhaid eu haildrefnu ei gyhoeddi maes o law.