Does “dim esgusodion” gan Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, ar ôl iddyn nhw golli o 4-1 yn Huddersfield yn y Bencampwriaeth ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 20).

Fe allen nhw fod wedi codi i’r ail safle pe baen nhw wedi ennill, yn enwedig ar ôl i Brentford golli hefyd.

Roedden nhw’n gyfartal 1-1 ar yr egwyl ond daeth tair gôl mewn saith munud gan y tîm cartref i weddnewid yr ornest.

Maen nhw’n bedwerydd yn y tabl.

“Dim ond ni ein hunain sydd ar fai,” meddai Steve Cooper.

“Os nad ydych chi’n gwneud y pethau sylfaenol ar ddwy ochr y cae, yna mae’n gallu costio’n ddrud i chi.

“Roedd y goliau gan Huddersfield yn amlwg wedi’u gorffen yn dda, ond fe wnaethon ni weithio ar yr ardaloedd aethon nhw iddyn nhw dipyn er mwyn ceisio eu hatal nhw rhag mynd yno.

“Roedd y gêm allan o’n gafael ni’n gyflym ryw ddeng munud wedi’r egwyl.

“Roedden ni’n ail orau ac yn y gynghrair hon, gall chwaraewyr eich brifo chi a dyna sydd wedi digwydd.

“Wnaethon ni ddim cymryd digon o ofal o’r bêl na chwarae â phwrpas hyd yn oed.

“Yn amddiffynnol, roedden ni’n rhy oddefol.

“Doedden ni ddim yn ddigon da yn bod yn ni ein hunain.”

Mae’n dweud nad yw blinder yn esgus.

Anaf Jordan Morris

Aeth prynhawn yr Elyrch o ddrwg i waeth gyda’r newyddion am anaf sylweddol i Jordan Morris.

Bu’n rhaid iddo fe adael y cae ar wastad ei gefn ar ôl anafu ei goes ar ôl awr, ac roedd yr Elyrch i lawr i ddeg dyn gan eu bod nhw wedi defnyddio’u holl eilyddion erbyn hynny.

“Dydy hi ddim yn edrych yn dda,” meddai Steve Cooper am yr anaf.

“Dw i ddim yn gwybod beth yw’r union ddifrod na’i raddau.”