Bydd Clwb Pêl-droed Abertawe’n manteisio ar eu gêm oddi cartref yn erbyn Stevenage yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr ddydd Sadwrn (Ionawr 9) i baratoi ac adeiladu ar gyfer gemau’r gynghrair sydd i ddod.

Mae’r Elyrch yn ail yn y Bencampwriaeth hanner ffordd drwy’r ymgyrch, bedwar pwynt oddi ar y brig, ac yn cadw eu gobeithion o ddyrchafiad awtomatig i’r Uwch Gynghrair yn fyw.

Ac maen nhw wedi cael hwb gyda’r newyddion fod Kyle Naughton wedi gwella o anaf i gyhyr yn ei stumog, er bod Joel Latibeaudiere a Ryan Bennett yn dal ar y cyrion a bod Morgan Gibbs-White (Wolves) a Kasey Palmer (Bristol City) wedi cael eu galw’n ôl o’u cyfnodau ar fenthyg yn Stadiwm Liberty.

Mae’n golygu bod yr Elyrch hefyd wedi galw’r Cymro Brandon Cooper yn ôl o Gasnewydd, er na fydd e ar gael yn y gwpan gan ei fod e eisoes wedi chwarae i’r Alltudion yn y gystadleuaeth.

“Mae Naughts yn ôl,” meddai Steve Cooper yn ei gynhadledd i’r wasg.

“Mae e wedi bod yn ymarfer drwy gydol yr wythnos felly mae e ar gael ar gyfer y penwythnos.

“Mae Ryan a Joel yn dal allan a byddan nhw felly am beth amser.

“P’un a fyddan nhw’n ôl ar gyfer Barnsley, mae hynny braidd yn aneglur ar hyn o bryd.

“Ond mae’n bwysig dweud nad oedden ni jyst wedi dod â Brandon yn ôl oherwydd Cwpan yr FA.

“Fe wnaethon ni ddod â fe ’nôl ar gyfer y gemau sydd i ddod yng ngweddill y tymor.”

Pwysigrwydd y gwpan

Yn ôl Steve Cooper, mae’n bwysig parchu traddodiad Cwpan FA Lloegr, ond fe fydd yr Elyrch hefyd yn cadw llygad ar ail hanner eu hymgyrch yn y Bencampwriaeth, gan obeithio y gallai llwyddiant yn y naill gystadleuaeth adeiladu ar eu llwyddiant yn y llall.

Yn hynny o beth, fydd y gemau ychwanegol yn y gwpan ddim yn peri pen tost i’r rheolwr.

“Dw i’n credu y bydd rhai newidiadau ond dim byd rhy fawr,” meddai.

“Rydyn ni’n bwriadu mynd â’r garfan i gyd i Stevenage oherwydd mae gyda ni fomentwm da, rydyn ni mewn lle da, dim ots ai gêm gynghrair neu gwpan yw hi, a dw i eisiau cadw pethau i fynd.

“Dw i’n credu ei bod hi’n bwysig fod pawb ynghlwm ac yn dal ati.

“Mae’r ymarferion wedi bod yn wych yr wythnos hon ac mae gyda ni gyfle i ymarfer yr wythnos nesaf hefyd gyda gêm yn y canol, dim ots pa gystadleuaeth na phwy yw’r gwrthwynebwyr.

“Rydyn ni eisiau parhau i wella ac ymdrechu i wella.

“Dyna fyddwn ni’n defnyddio’r gêm gwpan i’w wneud y penwythnos hwn.

“Rydyn ni eisiau ennill a chwarae’n dda, a byddwn ni’n gwneud ein gorau i wneud hynny.

“Dw i ddim yn rhagweld problem [wrth chwarae mwy o gemau].

“Cwpan yr FA yw hi – rydych chi eisiau bod ynddi.

“Mae yna lot o ffactorau o ran beth all ddigwydd yng Nghwpan yr FA ac mae hynny’n cynnwys profiadau gwych a digwyddiadau gwych i fod yn rhan ohonyn nhw, timau o’r Uwch Gynghrair ac ati.

“Felly dw i ddim yn rhagweld y bydd yn broblem.

“Yn bennaf oll, mae angen i ni ennill ddydd Sadwrn, dyna’r peth pwysicaf, â phob parch i Stevenage a’r gêm.

“Os awn ni drwodd a bod gyda ni bont i’w chroesi, fydd hi ddim yn broblem i ni, mae hynny’n sicr.”