Rhwng yr Ewros yn yr Haf a’r gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd, mae gan dîm pêl-droed Cymru flwyddyn fawr flasus o’u blaenau…

Mae’r sylwebydd pêl-droed Dylan Ebenezer yn dweud ei fod yn disgwyl “blwyddyn brysur ond mor gyffrous” i dîm Cymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer rowndiau terfynol yr Ewros a gemau rhagbrofol Cwpan y Byd.