Mae amddiffynnwr Abertawe, Brandon Cooper, wedi arwyddo estyniad contract hyd at haf 2023, gydag opsiwn o flyddyn arall.

Mae’r gŵr 20 oed, sy’n chwarae i Gymru dan 21, ar fenthyg gyda Chasnewydd ac wedi gwneud 21 ymddangosiad i’r clwb hwnnw y tymor hwn.

Dywedodd prif hyfforddwr Abertawe, Steve Cooper, wrth wefan y clwb: “Mae Brandon yn gynnyrch arall o’r system academi ac rydym wrth ein bodd ei fod wedi arwyddo cytundeb newydd.

“Mae wedi dechrau’n ardderchog ar fenthyg gyda Chasnewydd y tymor hwn. Mae wedi ymddangos yng Nghwpan EFL a Chwpan yr FA i ni yn y gorffennol, ond mae’r cyfnod hwn ar fenthyg wedi rhoi cyfle iddo brofi pêl-droed rheolaidd yn y gynghrair

“Mae gennym ni amddiffynwyr da, ifanc yn ein clwb, ac mae Brandon yn eu plith. Mae’n argoeli’n dda i’r clwb yn y safle hwnnw.”