Mae amddiffynnwr Cymru Rhys Norrington-Davies wedi arwyddo cytundeb newydd â Sheffield United i aros yn Bramall Lane tan haf 2024.

Mae Norrington-Davies, 21, sydd ar fenthyg yn Luton ar hyn o bryd, wedi dechrau 16 gêm ym mhob cystadleuaeth i Luton y tymor hwn, ac wedi ennill tri chap i Cymru.

“Rwy’n falch o gael fy ngwobrwyo ar ôl mynd allan ar fenthyg i’r Bencampwriaeth y tymor hwn a chwarae ar lefel uwch i Gymru hefyd,” meddai Norrington-Davies wrth sufc.co.uk.

“Fy ffocws hirdymor yw dod yn ôl i Bramall Lane a chwarae i Sheffield United.”