Wedi cyfnod rhyngwladol llwyddiannus iawn i Gymru, dychwelyd i’w clybiau a wnaeth y chwaraewyr y penwythnos hwn.

A gyda phedwar mis tan y gemau rhyngwladol nesaf, mae’n amser yn awr i’r rhai a oedd yn y garfan ddiweddaraf ganolbwyntio ar gadw eu lle ynddi ond yn gyfle i ambell un arall sydd ar y cyrion greu argraff.

 

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Tottenham yn erbyn Man City a oedd gêm fawr y penwythnos yn Uwch Gynghrair Lloegr ond ychydig iawn a gyfrannodd y Cymry at fuddugoliaeth nodedig Spurs o ddwy gôl i ddim nos Sadwrn. Dechreuodd Gareth Bale, Ben Davies a Joe Rodon ar y fainc a Rodon yn unig a ddaeth i’r cae, a hynny am ddeg munud yn unig.

Er gwaethaf ei berfformiadau da i Gymru, dechrau a gorffen ar y fainc a wnaeth Dan James hefyd wrth i Man U guro West Brom nos Sadwrn. Roedd un Cymro ar y cae serch hynny wrth i Hal Robson-Kanu ddychwelyd i dîm y Baggies yn dilyn anaf, yn chwarae’r hanner awr olaf.

Hal Robson-Kanu

Eilyddion heb eu defnyddio a oedd Neil Taylor i Aston Villa yn erbyn Brighton ddydd Sadwrn a Tyler Roberts i Leeds yn erbyn Arsenal ddydd Sul.

Yn dilyn perfformiadau da yng nghanol y cae i Gymru, fe ddechreuodd Ethan Ampadu fel amddiffynnwr canol i Sheffield United yn erbyn West Ham ond bu’n rhaid iddo adael y cae gydag anaf toc wedi’r awr wrth i’w dîm golli o gôl i ddim.

Sôn am anafiadau, roedd rhai’n disgwyl i Neco Williams ddechrau fel cefnwr dde i Lerpwl yn erbyn Caerlŷr nos Sul oherwydd anaf diweddar i Trent Alexander-Arnold. Dewis profiad James Milner dros addewid y Cymro ifanc a wnaeth Jurgen Klopp i ddechrau’r gêm serch hynny.

Ond cafodd Neco bron i hanner cyfan yn y diwedd wrth i Lerpwl ennill o dair gôl i ddim. Symudodd Milner i ganol cae yn dilyn anaf i Naby Keita yn gynnar yn yr ail hanner, gyda Williams yn llenwi’r bwlch yn y cefn.

Ar ôl chwarae tair gêm mewn wythnos i Gymru, dychwelyd i’r fainc a wnaeth Danny Ward yn erbyn ei gyn glwb yn Anfield.

 

 

Y Bencampwriaeth

Arhosodd Abertawe o fewn cyrraedd i frig y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth dros Rotherham ar y Liberty ddydd Sadwrn. Dechreuodd dau Gymro yn amddiffyn yr Elyrch a gadwodd lechen lân mewn buddugoliaeth o gôl i ddim. Dychwelodd Connor Roberts o’r garfan ryngwladol a dychwelodd Ben Cabango ar ôl methu gemau Cymru gydag anaf.

Ond ym mhen arall y cae yr oedd y newyddion mwyaf cyffrous i gefnogwyr Cymru wrth i Liam Cullen ddechrau gêm gynghrair am y tro cyntaf, a hynny bedair blynedd ar ddeg ers iddo fod yn fasgot saith mlwydd oed i’r Elyrch yn erbyn yr un gwrthwynebwyr!

 

Parhau i straffaglu yn yr hanner gwaelod y mae Caerdydd yn dilyn gêm gyfartal gôl yr un oddi cartref yn Millwall.

Credir mai nos Fercher yn erbyn y Ffindir a oedd y tro cyntaf erioed i ddau chwaraewr Caerdydd sgorio yn yr un gêm i Gymru. Dechreuodd Harry Wilson a Kieffer Moore i’r Adar Gleision ddydd Sadwrn ond dim ond Moore a lwyddodd i ail adrodd ei gamp i’r tîm rhyngwladol, gyda gôl hwyr y blaenwr yn achub pwynt i Neil Harris yn erbyn ei gyn glwb.

Eilyddion heb eu defnyddio a oedd Will Vaulks a Mark Harris i Gaerdydd ac felly hefyd Tom Bradshaw i Millwall.

Mae Bournemouth bellach yn ail yn y tabl ar ôl curo Reading o bedair gôl i ddwy ddydd Sadwrn. Daeth Chris Mepham i’r cae fel eilydd hanner amser ac fe chwaraeodd David Brooks o’r dechrau gan greu dwy o goliau ei dîm, y naill i Arnaut Danjuma a’r llall i Lewis Cook.

Tîm arall sydd yn hedfan yw Stoke ac roedd buddugoliaeth o bedair gôl i dair iddynt hwy yn erbyn Huddersfield. Chwaraeodd Morgan Fox 90 munud yn yr amddiffyn a daeth Sam Vokes a’i brofiad i’r cae am y munudau olaf.

Dim ond un o Gymry Luton a chwaraeodd yn eu gêm gyfartal yn erbyn Blackburn gyda Rhys Norrington-Davies yn chwarae 90 munud ar ôl dechrau dwy gêm i Gymru yn y chwe diwrnod blaenorol. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Tom Lockyer ac nid oedd Joe Morrell yn y garfan.

Cafodd Wycombe bwynt da mewn gêm ddi sgôr yn erbyn Brentford, gyda Joe Jacobson yn chwarae o’r dechrau yn yr amddiffyn a’r blaenwr, Alex Samuel, yn dod i’r cae fel eilydd am yr hanner awr olaf.

Mynd o ddrwg i waeth y mae tymor tîm Tom Lawrence, Derby County. Ar ôl cael gwared â’u rheolwr, Phillip Cocu, yn ystod y cyfnod rhyngwladol, fe gollodd y Meheryn eu gêm gyntaf hebddo oddi cartref yn erbyn Bristol City ddydd Sadwrn, gyda Lawrence yn chwarae’r gêm gyfan.

 

 

Cynghreiriau is

Dechreuodd Adam Matthews a Chris Gunter i Charlton yn erbyn Gillingham yn yr Adran Gyntaf, Matthews fel cefnwr de a Gunter yn y canol. Ildiodd Gunts gic o’r smotyn ddadleuol a roddodd Gills ar y blaen cyn i’w dîm daro nôl i gipio pwynt. Ar ôl colli ei le yn nhîm Cymru, ar y fainc yr oedd Dylan Levitt i’w glwb hefyd.

Chwaraeodd Chris Maxwell yn y gôl i Blackpool wrth iddynt guro Peterborough o ddwy gôl i un a dychwelodd Ben Woodburn yn dilyn cyfnod o hunan-ynysu gyda COVID-19 i chwarae’r ugain munud olaf.

Roedd buddugoliaeth dda i gymdogion Blackpool hefyd wrth i Fleetwood chwalu Plymouth o bum gôl i un. Dechreuodd Wes Burns i’r Fyddin Benfras gan sgorio trydedd gôl y grasfa a daeth Ched Evans i’r cae am yr hanner awr olaf. Cymro a sgoriodd gôl gysur yr ymwelwyr hefyd, Luke Jephcott yn rhwydo’n hwyr.

Tîm arall a gafodd fuddugoliaeth gyfforddus a oedd Portsmouth yn erbyn Crewe. Dechreuodd Ellis Harrison i Pompey gan chwarae’i ran mewn dwy o’r goliau yn y fuddugoliaeth o bedair i un.

Mae’r canlyniad hwnnw’n codi Portsmouth i’r pedwerydd safle, un lle y tu ôl i Ipswich, a gurodd yr Amwythig o ddwy gôl i un. Nid oedd golwg o Gwion Edwards na James Wilson yng ngharfan Bois y Tractors ond daeth Emyr Huws i’r cae fel eilydd yn gynnar yn yr ail hanner gan helpu ei dîm i daro nôl ar ôl bod ar ei hôl hi.

Emyr Huws
Emyr Huws

Roedd buddugoliaeth i Dion Donohue gyda Swindon a chwaraeodd Matt Smith a Brennan Johnson eu rhan mewn gemau cyfartal i Doncaster a Lincoln. Colli a oedd hanes Regan Poole gyda MK Dons a Tom James gyda Wigan.

Mae Casnewydd yn aros ar frig yr Ail Adran yn dilyn buddugoliaeth ddramatig yn erbyn Port Vale ddydd Sadwrn. Sgoriodd cyn chwaraewr Conwy, Kevin Ellison, sydd bellach yn 41 mlwydd oed unig gôl y gêm yn y chweched munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

O ran y Cymry yn nhîm yr Alltudion, dechreuodd Liam Shephard a Brandon Copper yn yr amddiffyn a gadwodd lechen lân yn y cefn ac fe ddathlodd Josh Sheehan ennill ei gap rhyngwladol cyntaf yr wythnos diwethaf gyda pherfformiad awdurdodol arall yng nghanol y cae. Dim syndod fod ei reolwr, Mike Flynn, yn awyddus iddo arwyddo cytundeb newydd!

 

 

Yr Alban a thu hwnt

Fe fethodd Christian Doidge gêm gyfartal Hibs yn erbyn Celtic yn Uwch Gynghrair yr Alban ddydd Sadwrn ond fe chwaraeodd Ash Taylor a Ryan Hedges i Aberdeen wrth iddynt hwy gael cweir o bedair gôl i ddim gan Rangers ddydd Sul.

Mae Owain Fôn Williams a Dunfermline yn aros ar frig Pencampwriaeth yr Alban ar ôl curo Hearts o ddwy gôl i un nos Wener.

Yn dilyn ei absenoldeb o garfan ddiweddaraf Cymru oherwydd anaf, nid oedd Aaron Ramsey yng ngharfan Juventus a gurodd Cagliari yn Serie A ddydd Sadwrn. Nid oedd Rabbi Matondo yng ngharfan Schalke ychwaith wrth iddynt hwy golli yn erbyn Wolfsburg yn y Bundesliga.

Mae Matondo a’i dîm mewn perygl o fod yn chwarae yn yr ail adran, y 2.Bundesliga, y tymor nesaf ond a fydd St. Pauli yn aros yn y gynghrair honno tybed? Maent yn y ddau isaf ar ôl colli yn erbyn Paderborn ddydd Sadwrn, gêm y chwaraeodd James Lawrence 90 munud ynddi yng nghanol yr amddiffyn.

Cafodd Robbie Burton brofiad sydd yn gyfarwydd iawn i sawl Cymro ddydd Sadwrn, gwylio ei dîm yn colli yn y Stadion Gradski yn Osijek! Ar y fainc yr oedd y Cymro wrth i Dinamo Zagreeb golli yn y frwydr ar frig tabl Uwch Gynghrair Croatia. O wel, cwyd dy galon Robbie bach, o leiaf doedd hi ddim yn haul tanbaid 35˚C!

 

 

Gwilym Dwyfor