Fydd y cefnogwyr ddim yn bell o feddyliau Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wrth i’w dîm deithio i Fryste ar gyfer gêm fawr yn y Bencampwrieth yfory (dydd Sadwrn, Hydref 24).

Fel arfer, byddai stadiwm Bristol City dan ei sang ar gyfer y gêm ddarbi drawsffiniol.

Ond yng nghanol y cyfnod clo, chwarae mewn stadiwm wag fydd y chwaraewyr unwaith eto.

Daw’r Elyrch i’r gêm gyda thair buddugoliaeth, dwy gêm gyfartal ac un golled yn eu chwe gêm hyd yn hyn, ond maen nhw heb fuddugoliaeth yn eu dwy gêm ddiwethaf – gêm gyfartal yn Coventry a cholled yn erbyn Huddersfield.

Fe ddywedodd Steve Cooper wrth golwg360 heddiw fod y gêm gyfartal ddi-sgôr yn Ashton Gate yn 2019-20 yn un o’i hoff gemau y tymor diwethaf – nid oherwydd safon y gêm, ond “angerdd y cefnogwyr”.

Fe allai’r Elyrch fod wedi codi i frig y tabl gyda buddugoliaeth, ac fe fyddan nhw’n mynd yno unwaith eto yfory (dydd Sadwrn, Hydref 24) yn y gobaith o godi i’r ail safle, tra mai Bristol City all godi i’r brig y tro hwn.

Aeth yr Elyrch i lawr i ddeg dyn ar eu hymweliad diwethaf â Bristol City, wrth i Jake Bidwell weld cerdyn coch yn hwyr yn y gêm am dacl ar Niclas Eliasson wrth iddo geisio torri’n rhydd ar yr asgell dde.

Ar ôl hanner cyntaf digon tawel, yr Elyrch oedd wedi bod ar y droed flaen drwy gydol yr ail hanner, gan orffen gyda 56% o’r meddiant, ac fe gawson nhw sawl cyfle hwyr i ennill y gêm.

Angerdd

“Yn bersonol, roedd y gêm ddiwethaf chwaraeon ni yno’n un o uchafbwyntiau’r tymor i fi,” meddai Steve Cooper wrth golwg360.

“Dw i’n gwybod nad oedden ni wedi ennill yno, ond nid y gêm oedd [y peth pwysicaf] ond yn hytrach, angerdd y cefnogwyr.

“Roedd hi’n gynnar yn y tymor, ac fe wnaethon ni wir deimlo [y gefnogaeth] y diwrnod hwnnw.

“Felly dw i’n gwybod ei bod hi’n gêm bwysig ac yn gêm fawr i’r clwb.

“Dw i wedi atgoffa’r chwaraewyr a’r staff yn gyson am y cyfnod rydyn ni ynddo fe a’r anawsterau y gall fod pobol yn mynd drwyddyn nhw.

“Yn anffodus, wrth fynd i mewn i gyfnod clo, fe allai hynny gynyddu eto i rai pobol.

“Felly yn sicr, mae’r chwaraewyr yn cael eu hatgoffa’n gyson am sut mae bywyd ar hyn o bryd a phwysigrwydd ein rhan ni wrth roi gwên ar wynebau pobol am gyfnod byr.

“Rhaid i hynny fod yn nod ac yn ysgogiad i ni a’r bois, dw i’n meddwl mai dyna’r peth lleiaf y gallwn ni ei wneud ar hyn o bryd ar ran y cefnogwyr sy’n dod i’r stadiwm a chefnogi’r tîm, yn ein cefnogi ni ac yn gweiddio drosom ni.”

Cefnogi o bell

Gyda gwaharddiad ar fynd i gemau yn dal yn ei le ar hyn o bryd, mae Steve Cooper yn dweud ei fod e’n awyddus i sicrhau nad yw’r cefnogwyr yn cael eu hanghofio.

“Os ydyn nhw’n ein cefnogi ni gartref, dw i eisiau sicrhau eu bod nhw’n cael eu clywed,” meddai.

“Dw i’n credu mai’r ffordd iddyn nhw gael eu clywed yw fy mod i’n dweud wrth [y chwaraewyr].

“Dw i wedi dweud hynny sawl gwaith wrth y chwaraewyr, y tymor hwn ar ôl dechrau’r cyfnod clo a’r tymor hwn hefyd.

“Dw i wedi cael gwybod am y nifer o gefnogwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth ffrydio a’r niferoedd enfawr o gefnogwyr sy’n gwylio’n gemau ni.

“Mae angen i ni wybod hynny a’i ddefnyddio fel ysgogiad go iawn i sicrhau ein bod ni’n gwneud ein gorau, yn fwy na dim byd arall, jyst gwneud ein gorau.

“Dyna’r peth lleiaf y gallwn ni ei wneud. Mae’r gefnogaeth i ni’n wych, rydyn ni’n lwcus.

“Mae angen i ni wneud ein gorau er mwyn rhoi rhywbeth bach yn ôl.”