Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd Cymru yn teithio i Stadiwm Wembley ar Hydref 8 ar gyfer gêm ryngwladol y cenhedloedd cartref yn erbyn Lloegr.

Bydd carfan Ryan Giggs yn dychwelyd i’r cae yn yr Hydref am y tro cyntaf mewn 10 mis oherwydd pandemig y coronafeirws, gan ddechrau gydag ymgyrch 2020/21 Cynghrair Cenhedloedd UEFA. Mae’r gêm yn erbyn Lloegr yn un o ddwy gêm ryngwladol ychwanegol ym mis Hydref a Thachwedd mewn cyfnod o gemau triphlyg.

Yn unol â chanllawiau presennol y Llywodraeth, ar hyn o bryd bydd y gêm yn cael ei chwarae tu ôl i ddrysau caeedig.

Dychwelyd i Wembley

Ers y gêm gyntaf rhwng y ddwy wlad yn 1879, Lloegr yw ail wrthwynebwyr hynaf Cymru, gyda 102 o gemau rhwng y gwledydd – 14 buddugoliaeth, 21 gêm gyfartal a 67 colled. Y tro diwethaf i Gymru ymweld â Stadiwm Wembley oedd yn 2011 ar gyfer gêm ragbrofol Ewro 2012 ble sgoriodd Ashley Cole yr unig gôl yn y golled o 1-0.

Bydd tîm Ryan Giggs yn manteisio ar y gêm hon i baratoi ar gyfer rowndiau terfynol Ewro 2020 yr haf nesaf ble bydd y garfan yn gobeithio dychwelyd i Wembley, ble mae rhai o’r gemau yn cael eu cynnal, ar gyfer cymalau olaf y gystadleuaeth.

Mae Cymru yng Ngrŵp B Cynghrair y Cenhedloedd gyda Bwlgaria, Y Ffindir a Gweriniaeth Iwerddon.

Dyma ddyddiadau’r gemau:

Dydd Iau, 3 Medi – Y Ffindir v Cymru (7:45pm)

Dydd Sul, 6 Medi – Cymru v Bwlgaria (2:00pm)

Dydd Sul, 11 Hydref – Gweriniaeth Iwerddon v Cymru (2:00pm)

Dydd Mercher 14 Hydref – Bwlgaria v Cymru (7:45pm)

Dydd Sul, 15 Tachwedd – Cymru v Gweriniaeth Iwerddon (5:00pm)

Dydd Mercher, 18 Tachwedd – Cymru v Y Ffindir (7:45pm)