Fe fydd Matt Grimes, capten tîm pêl-droed Abertawe, yn chwarae yn ei ganfed gêm i’r clwb heno (nos Fercher, Gorffennaf 8), wrth iddyn nhw deithio i Birmingham yn y Bencampwriaeth.

Mae’r chwaraewr canol cae wedi chwarae ym mhob gêm hyd yn hyn y tymor hwn.

Ond nid felly y bu erioed pan ymunodd y chwaraewr o Gaerwysg â’r Elyrch yn 2015, er ei fod e wedi bod yn denu sylw nifer o glybiau Uwch Gynghrair Lloegr cyn symud i Stadiwm Liberty.

Ar ei orau, fe gafodd ei gymharu â Glenn Hoddle, un o fawrion Lloegr, ond fe gafodd e gyfnodau allan ag anafiadau ac yna ei anfon allan ar fenthyg i Blackburn a Leeds, lle’r oedd ei gyfleoedd e’n brin.

Ond ar ôl cyfnod o fyfyrio am ei gariad at y gêm, fe gafodd e ail wynt wrth ddychwelyd i Gymru yn 2018 ar ôl bod ar fenthyg yn Northampton.

Dechreuodd e’r tymor canlynol yn safle’r cefnwr chwith cyn symud i ganol y cae, lle bu’n rhan allweddol o’r tîm o dan sawl rheolwr dros y tymhorau diwethaf ac fe ddaeth y penllanw pan gafodd ei enwi’n gapten y clwb gan Steve Cooper cyn dechrau’r tymor hwn.

‘Taith hir’

“Bu’n daith hir ac un dw i’n falch ohoni,” meddai Matt Grimes.

“Pan dw i’n edrych yn ôl nawr, bu’n rhaid i fi oresgyn dipyn i gyrraedd lle’r ydw i heddiw.

“Ar ôl y flwyddyn neu ddwy gyntaf, wnes i ddim ymddangos ryw lawer ac yna, fe es i allan ar fenthyg sawl gwaith, felly roedd hi’n anodd ar y dechrau.

“Ond dros y blynyddoedd diwethaf, dw i wedi chwarae un gêm ar ôl y llall a dw i bellach wedi taro’r 100, a dw i’n amlwg yn falch iawn o hynny.

“Mae wedi bod braidd yn swreal, a bod yn onest.

“Doedd wir ddim syniad gyda fi bo fi’n agos i’r 100, ond dw i’n amlwg yn freintiedig iawn.

“Dw i’n ddiolchgar i bawb sydd wedi fy helpu ar y daith, a dw i’n falch iawn o le’r ydw i nawr.”

Dim ond pedwar chwaraewr arall yn y garfan bresennol sydd wedi chwarae mwy o gemau i’r clwb – Nathan Dyer, Wayne Routledge, Kyle Naughton a Mike van der Hoorn.