Mae’n ymddangos y bydd mwy o bwysau ar ysgwyddau’r Cymro ifanc Ben Cabango wrth i dymor pêl-droed Abertawe ddod i derfyn dros yr wythnosau nesaf.

Daeth cadarnhad eisoes na fydd ei gyd-Gymro Joe Rodon ar gael am weddill y tymor ar ôl anafu ei ffêr cyn y gêm yn erbyn Millwall dros y penwythnos.

A fydd Ben Wilmot, sydd ar fenthyg o Watford, ddim ar gael am weddill y gemau cynghrair, gyda’r posibilrwydd y gallai ddychwelyd ar ôl anaf i’w benglin pe bai’r Elyrch yn cyrraedd y gemau ail gyfle.

O ran Mike van der Hoorn, yr amddiffynnwr canol mwyaf profiadol yn y garfan, mae’r Iseldirwr yn agos at ddychwelyd ar ôl gwella o anaf i’w benglin.

Mae Steve Cooper, rheolwr Abertawe, wedi bod yn trafod y sefyllfa yng nghanol yr amddiffyn ar drothwy’r gêm yn erbyn Sheffield Wednesday yn Stadiwm Liberty ddydd Sul (Gorffennaf 5).

Mae’r holl anafiadau’n gadael Ben Cabango a Marc Guehi fel yr unig ddau amddiffynnwr, gyda’r opsiwn o ddod â Kyle Naughton i mewn o safle’r cefnwr.

“Os cewch chi anafiadau, y lle diwetha’ ry’ch chi eisiau iddo fe ddigwydd yw yng nghanol yr amddiffyn,” meddai’r rheolwr.

“Mae gan Sod’s Law rywbeth i’w ddweud am hynny!

“Ond wnawn ni fyth grio am anafiadau, er ei bod yn sefyllfa anffodus.”

Joe Rodon

“O ran Joe [Rodon], roedden ni fwy neu lai yn gwybod y sefyllfa ymlaen llaw, ond roed angen cadarnhad fore ddoe, ac fe ddaeth hynny,” meddai Steve Cooper.

“Mae gweddill y tymor yn golygu pythefnos a hanner, a weithiau mae’n gallu swnio’n waeth nag yw e yn nhermau’r cyfnod amser hwnnw.

“Ond fe fydd e [allan o’r gemau ail gyfle].

“Yn bennaf oll o ran Joe, mae e wedi cael amser anodd gydag anafiadau, gyda rhywfaint o anaf i’w goes pan ddaeth e ’nôl.

“Mae e wedi gweithio mor galed, nid yn unig i ddychwelyd o’r anaf ganol y tymor ond hefyd ar ôl cyfnod y gwarchae hefyd.

“Mae e mor ymroddgar, mae e wedi cael siom ond wedi cael ei hun yn barod ar gyfer nos Fawrth yn erbyn Millwall, ac fe ddigwyddodd hynny eto ddydd Sul.

“Ry’n ni mor siomedig drosto fe achos roedd e’n ysu am gael chwarae.

“Ein cynllun yn y lle cyntaf yw ei gael e ’nôl yn ffit a gobeithio y caiff e rywfaint o lwc ac yn aros yn ffit.

“Mae e’n gweithio mor galed a weithiau, fe yw’r chwaraewr olaf i adael y cae ymarfer wrth wneud pethau i’w helpu fe i wella fel chwaraewr ond mae e wedi cael sawl sefyllfa anffodus, ond nid oherwydd diffyg proffesiynoldeb sy’n gallu achosi anafiadau weithiau.

“Mae jyst yn fater o lwc ofnadwy.”

Ben Cabango

Mae’r sefyllfa hefyd yn golygu y bydd rhaid i Ben Cabango dreulio mwy o amser ar y cae nag yr oedd yr Elyrch wedi’i obeithio yn ystod y cyfnod olaf hwn yn y tymor.

“Mae Ben Cabango wedi dechrau tair gêm,” meddai Steve Cooper.

“Mae blinder yn dechrau dod i mewn, ac mae e hefyd wedi cael problem fach ers rhai misoedd y bu’n rhaid iddo fe ei rheoli.

“Mae’n dipyn o dasg ido fe, ond does dim problem fawr.

“Rhaid i ni jyst fwrw ati.”

Joe Rodon am adael?

Yn y cyfamser, mae sefyllfa Joe Rodon yn golygu bod cwestiynau ynghylch ei ddyfodol gyda’r clwb.

Mae cryn ddyfalu y gallai fod ymhlith y chwaraewyr fydd yn gadael Stadiwm Liberty ar ddiwedd y tymor, ar ôl iddo fe ddenu sylw rhai o glybiau’r Uwch Gynghrair.

Ond mae Steve Cooper yn dweud ei fod e’n “despret” i’w gadw yn Abertawe.

“Does dim byd ar y bwrdd gan unrhyw glwb arall,” meddai’r rheolwr.

“Tra ei fod e wedi anafu, bydd hynny’n aros yr un fath.

“Os bydd pethau’n newid yn yr haf, bydd rhaid i ni ymdrin â’r peth bryd hynny.

“Ond byddwn i’n despret i weld Joe yn dychwelyd y tymor nesaf oherwydd mae e’n chwaraewr a pherson da, a dyna’r union feddylfryd ry’n ni eisiau allan ar y cae.”