Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud bod y posibilrwydd o gyrraedd y gemau ail gyfle ar ddiwedd tymor y Bencampwriaeth yn ei gyffroi.

Mae’r Elyrch yn nawfed yn y tabl, un pwynt islaw’r chweched safle hollbwysig, gydag wyth gêm yn weddill, ac mae ganddyn nhw a Blackburn 56 o bwyntiau’r un.

Byddan nhw’n herio Luton yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn (Mehefin 27), wrth i’r ymwelwyr geisio buddugoliaeth fyddai’n eu codi nhw oddi ar waelod y tabl.

“Ry’n ni wedi cyffroi’n fawr,” meddai Steve Cooper yn ei gynhadledd wythnosol heddiw (dydd Iau, Mehefin 25).

“Allwn ni ddim aros i’r gemau ddod.

“Dw i’n credu y bydd y darlun yn newid fel y gwnaeth e’r wythnos ddiwethaf.

“Mae’n hawdd iawn edrych ar beth arall sy’n digwydd, ond rhaid i chi ofalu amdanoch chi eich hunain.

“Ry’n ni wedi cyffroi o gael bod yn rhan o’r cyfan, ry’n ni yn ei chanol hi ac yn teimlo erioed ein bod ni.

“All y gemau ddim dod yn ddigon cyflym i ni.”

Cytundebau

Gyda’r tymor wedi’i ymestyn am gyfnod yn sgil y coronafeirws, cafodd yr Elyrch hwb yr wythnos hon wrth i Nathan Dyer, Wayne Routledge, Mike van der Hoorn, Erwin Mulder a Kyle Naughton lofnodi cytundebau newydd.

Tra bod Steve Cooper yn dweud bod hynny’n hwb, does dim sicrwydd iddyn nhw ar hyn o bryd y tu hwnt i ddiwedd y tymor.

“Ry’n ni wedi cynnal trafodaethau gyda phob chwaraewyr o ran lle’r y’n ni arni, lle maen nhw arni, a does dim penawdau na chadarnhad eto, ond mae’r sgyrsiau’n parhau gyda phob chwaraewr o ran beth allai fod rownd y gornel iddyn nhw.

“Ond mae’n bwysig dweud ein bod ni a nhw yn canolbwyntio ar weddill y tymor, yn bennaf oll.

“Does dim pennau tost wedi bod nac unrhyw drafodaethau hir, ac yn sicr dim perswadio.”

Ymrwymiad

Mae Steve Cooper wedi canmol ymrwymiad y chwaraewyr hynny hefyd, gan ddweud bod yr ymrwymiad hwnnw’n allweddol i’w llwyddiant.

“Mae’n destun balchder faint o ymrwymiad mae’r chwaraewyr wedi dangos,” meddai.

“Mae pob un ohonyn nhw wedi bod gyda’r clwb ers peth amser ond os meddyliwch chi am Wayne, Nathan a Kyle – heb amharchu Mike ac Erwin, sydd hefyd wedi bod yn wych – ond mae’r tri wedi bod gyda’r clwb ers amser hir ac wedi profi cryn lwyddiant gydag Abertawe.

“Wrth siarad â Wayne a Nathan, maen nhw’n aml yn cyfeirio at y clwb fel eu clwb nhw ac y bydd e bob amser yn agos at eu calonnau nhw, a dyna’r geiriau maen nhw’n eu defnyddio.

“Maen nhw wir yn credu yn yr hyn ry’n ni’n ei wneud ac maen nhw am fod yn rhan o hynny.

“Maen nhw wedi bod yn wych, pob un o’r chwaraewyr hŷn, drwy gydol a tymor a dw i wedi dweud hynny’n gwbl agored wrthyn nhw hefyd.

“Mae’n destun balchder i fi a’r staff, ac i’r bois eraill hefyd, eu bod nhw’n aml yn dangos cefnogaeth yn yr ystafell newid, yn eu herio nhw lle mae angen a dw i’n credu’n gryf, os gall ystafell newid edrych ar ôl ei hun heb i fi na’r staff orfod ymyrryd gormod, yna mae hynny’n arwydd o ddiwylliant da iawn, sy’n cael ei arwain yn aml iawn gan y chwaraewyr hŷn.

“Dyna enghraifft arall o’r rôl sydd ganddyn nhw.”

Cyfathrebu’n allweddol

Yn ôl Steve Cooper, fe fu cyfathrebu ar bob lefel o’r clwb yn bwysig wrth sicrhau bod y chwaraewyr yn cael cytundebau newydd sy’n plesio pawb.

“Yn ystod cyfnod y gwarchae, roedden ni’n onest o’r dechrau’n deg gyda’r chwaraewyr oedd allan o gytundeb fod [y tymor] yn debygol o redeg drosodd, felly does dim cyfathrebu hwyr wedi bod, ac ry’n ni wedi bod yn agored gyda nhw ers y dechrau.

“Dw i a Trevor [Birch, y cadeirydd] hyd yn oed wedi cynnal galwadau Zoom gyd rhai o’r chwaraewyr sydd allan o gytundeb.

“Mae Trevor wedi bod yn wych a bob tro mae e wedi cael gwybodaeth gan y Gynghrair Bêl-droed roedd e’n credu y byddai’n ddefnydiol, mae e wedi dweud wrtha i, ac wedi bod yn trosglwyddo e-byst o hyd, hyd yn oed os ydyn nhw’n breifat a chyfrinachol.”