Airbus 1–1 Y Seintiau Newydd
Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi wrth i’r Seintiau Newydd ymweld â’r Maes Awyr i herio Airbus yn Uwch Gynghrair Cymru nos Sadwrn.
Rhoddodd Mike Wilde yr ymwelwyr ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond roedd Airbus yn llawn haeddu unioni ac fe wnaethant hynny wyth munud o ddiwedd y gêm diolch i Tony Gray.
Hanner Cyntaf
Dechreuodd Airbus yn dda ond daeth y Seintiau fwyfwy i’r gêm wrth i’r hanner cyntaf fynd yn ei flaen a’r pencampwyr yn sicr gafodd y gorau o’r cyfleoedd.
Roedd Wilde eisoes wedi gwastraffu un cyfle un-ar-un yn erbyn James Coates pan sgoriodd y gôl agoriadol hanner ffordd trwy’r hanner. Derbyniodd y bêl ar ochr y cwrt cosbi, ei rheoli’n gelfydd gyda’i gyffyrddiad cyntaf cyn ei llithro’n daclus heibio i Coates gyda’i ail.
Roedd angen arbediad gan Coates wedi hynny i atal Scott Quigley rhag dyblu’r fantais wedi rhediad da ac fe anelodd Wilde heibio’r postyn yn symudiad olaf yr hanner.
Ail Hanner
Roedd Airbus yn fwy bygythiol o flaen gôl yn yr ail hanner ac roedd hynny yn amlwg o’r eiliadau cyntaf wrth i Tom Field daro’r trawst gydag ergyd o ugain llath.
Dylai’r tîm cartref fod wedi cael cic o’r smotyn ddeuddeg munud o’r diwedd pan gafodd Chris Budrys ei lorio gan Phil Baker yn y cwrt cosbi ond rhoddodd y dyfarnwr gerdyn melyn dadleuol i Budrys am dwyllo yn lle pwyntio at y smotyn.
Doedd dim rhaid i Airbus aros yn hir serch hynny cyn unioni. Wyth munud oedd ar ôl pan beniodd Gray groesiad Field i gefn y rhwyd.
Y Seintiau ddaeth agosaf i’w hennill hi yn y munudau olaf ond gwyrodd foli Alex Darlington fodfeddi dros y trawst.
Pwynt yr un oedd hi felly, canlyniad sydd yn rhoi’r Seintiau yn ail yn y tabl ac Airbus yn bedwerydd.
.
Airbus
Tîm: Coates, Owens, Pearson, Barrow, McGinn, Field, Williams, Murphy (Fraughan 71’), Gray, Wade, Budrys
Gôl: Gray 82’
Cerdyn Melyn: Budrys 79’
.
Y Seintiau Newydd
Tîm: Harrison, K. Edwards, Rawlinson, Baker, Marriott, A. Edwards, Seargeant, Cieslewicz, Williams (Darlington 49’), Quigley (R. Edwards 81’), Wilde
Gôl: Wilde 24’
.
Torf: 282