Doedd dim trosedd wedi’i chyflawni pan gafodd awyren yn cludo baner ‘White Lives Matter Burnley’ ei hedfan uwchben gêm bêl-droed Manchester City yn erbyn Burnley, yn ôl yr heddlu.

Fe wnaeth yr heddlu ymchwilio i’r mater yn Stadiwm Etihad ym Manceinion nos Lun (Mehefin 22).

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i faes awyr Blackpool, sy’n gartref i gwmni Air Ads oedd wedi hedfan y faner, gyhoeddi eu bod nhw am roi’r gorau dros dro i hedfan baneri.

Dywedodd y cwmni eu bod nhw, y maes awyr a’r cyngor lleol wedi’u “ffieiddio” gan y digwyddiad ar ôl i chwaraewyr “gymryd y benglin” i ddangos eu cefnogaeth i’r ymgyrch Black Lives Matter.

Mae nifer o gefnogwyr Burnley wedi lleisio’u gwrthwynebiad i’r brotest White Lives Matter, ac mae Clwb Pêl-droed hefyd wedi dweud y byddan nhw’n gwahardd y sawl oedd yn gyfrifol rhag mynd i gemau.

Mae nifer o gefnogwyr wedi dod ynghyd i godi arian ar gyfer Ymddiriedolaeth Elusennol Stephen Lawrence yn sgil y digwyddiad.