Abertawe 0–0 Everton                                                                     

Gêm gyfartal ddi sgôr a gafodd Abertawe wrth i Everton ymweld â’r Liberty yn Uwch Gynghrair Lloegr brynhawn Sadwrn.

Bafitimbi Gomis gafodd y cyfle gorau mewn hanner cyntaf diflas ond methodd y blaenwr cartref daro’r targed.

Roedd Everton yn well wedi’r egwyl, yn enwedig felly yn y chwarter olaf ac roedd ymosodwr yr ymwelwyr, Romelu Lukaku, yn wastraffus ar ddau achlysur.

Gorffennodd Everton y gêm gyda deg dyn wedi i Kevin Mirallas dderbyn cerdyn coch am dacl wael ar Modou Barrow lai na dau funud wedi iddo ddod i’r cae fel eilydd.

Doedd fawr ddim amser ar ôl i’r Elyrch fanteisio serch hynny a bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt yn y diwedd.

Mae’r pwynt hwnnw yn ddigon i gadw Abertawe yn wythfed yn y tabl.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Williams, Taylor, Cork, Shelvey, Ayew (Barrow 87′), Sigurdsson (Ki Sung-yueng 61′), Montero, Gomis (Éder 81′)

Cardiau Melyn: Cork 45’, Ayew 80’

.

Everton

Tîm: Howard, Browning, Stones, Jagielka, Galloway, McCarthy, Barry, Koné (Deulofeu 65′), Barkley (Mirallas 92′), Naismith, Lukaku

Cardiau Melyn: Barry 56’, Browning 74’

Cerdyn Coch: Mirallas 90’

.

Torf: 20,805