Roedd siom i’r Seintiau Newydd neithiwr wrth iddyn nhw golli o 1-0 yn erbyn Videoton yng nghymal cyntaf eu hail gêm ragbrofol yng Nghynghrair y Pencampwyr yng Nghroesoswallt.

Mae’r canlyniad yn golygu mai dyma’r tro cyntaf iddyn nhw golli gartref ers 2012.

Fe gyrhaeddodd y Seintiau’r ail rownd ar ôl trechu B36 Torshavn o Ynysoedd y Ffaro 6-1 dros ddau gymal.

Aeth 77 o funudau heibio cyn i’r Cymry golli eu ffordd, ac fe fanteisiodd Adam Gyurcso ar gamgymeriad gan Christian Seargeant cyn taro’r bêl heibio’r golwr Paul Harrison i gefn y rhwyd.

Daeth cyfle hwyr i Aeron Edwards unioni’r sgôr ond cafodd yr ergyd ei harbed gan Peter Gabor.

Bydd yr ail gymal yn erbyn Videoton yn Hwngari yr wythnos nesaf.