Mae’r Seintiau Newydd mor barod ag y gallan nhw fod i herio Videoton yng Nghynghrair y Pencampwyr heno ac yn ddigon da i ennill, yn ôl y sylwebydd Malcolm Allen.

Bydd y ddau dîm yn wynebu ei gilydd yng Nghroesoswallt yng nghymal cyntaf ail rownd ragbrofol y gystadleuaeth heno, gyda’r ail gymal yn cael ei chwarae draw yn Hwngari wythnos nesaf.

Fe gyrhaeddodd y Seintiau’r ail rownd ar ôl trechu B36 Torshavn o Ynysoedd y Ffaro 6-1 dros ddau gymal.

Bydd eu gêm heno yn erbyn Videoton, pencampwyr Hwngari, yn fyw ar S4C ac mae sylwebydd Sgorio yn hyderus fod tîm Craig Harrison yn ddigon cryf i gipio’r fantais yn y cymal cyntaf.

“Dyw’r Seintiau Newydd ddim wedi colli gartre’ ers Tachwedd 2012 a dw i’n hyderus y bydd hi’n noson i’w chofio, gyda’r Seintiau’n mynd i Hwngari wythnos nesaf 2-0 ar y blaen gan ychwanegu at lwyddiant pêl-droed yng Nghymru,” meddai Malcolm Allen.

‘Mwy ffit nag erioed’

Er bod tymor domestig Y Seintiau Newydd heb ddechrau eto wnaethon nhw ddim dangos unrhyw arwydd o ddiffyg ffitrwydd yn erbyn B36 Torshavn yn rownd gyntaf y gystadleuaeth.

Ac yn ôl Malcolm Allen mae hynny’n dystiolaeth o’r gwaith caled mae’r tîm wedi bod yn ei wneud dros yr wythnosau diwethaf wrth baratoi.

“Doedd hi ddim yn sioc i mi o gwbl fod y Seintiau Newydd wedi mynd drwodd yn hawdd i rownd gyntaf gemau rhagbrofol Cynghrair Pencampwyr Ewrop ar ôl eu gweld mewn sesiwn hyfforddi cyn y tymor newydd ychydig o wythnosau nôl,” meddai’r sylwebydd.

“Maen nhw’n dîm proffesiynol o’r top i’r gwaelod ac mi oedd lefelau ffitrwydd y chwaraewyr wrth iddyn nhw ddychwelyd o’u hegwyl fach ar ôl ennill y trebl y tymor diwethaf yn rhyfeddol.

“Y sialens nesaf fydd gadael eu marc yn Ewrop ac, o weld uchelgais pawb, maen nhw’n barod, credwch fi.

“Dw i ddim wedi gweld, mewn unrhyw glwb fues i ynddo, pob chwaraewr yn dod ’nôl o’u gwyliau mor ffit, ac, yr un mor bwysig, yn barod yn feddyliol am y lefel nesaf a dangos i bawb na ddylid anwybyddu’r safon yma yn Uwch Gynghrair Cymru.”

Gwrthwynebwyr profiadol

Does dim amheuaeth bod her fawr yn wynebu’r Seintiau yn yr ail rownd ragbrofol, gyda Videoton yn wrthwynebwyr profiadol sydd â hanes o lwyddo yn Ewrop.

Ond mae Malcolm Allen yn dawel hyderus y gall pencampwyr Cymru fanteisio ar y llwyddiant diweddar ym mhêl-droed y wlad a mynd yn bellach nag y maen nhw erioed wedi o’r blaen.

“Yn ôl rheolwr y Seintiau Newydd, Craig Harrison, trydedd rownd y gemau rhagbrofol yw’r nod achos buasai un cyfle arall – yng Nghynghrair Ewropa – ar ôl wedi hynny,” esboniodd cyn-ymosodwr Cymru.

“Mae pêl-droed ar i fyny’n barod yng Nghymru gyda’r tîm cenedlaethol wedi cyrraedd deg uchaf timau’r byd. Nawr gall y Seintiau Newydd greu mwy fyth o gyffro drwy guro Videoton heno yn fyw ar S4C.

“Dw i mor falch, yn bersonol, fod S4C wedi gweld yr ymateb a’r gefnogaeth gan ffans Cymru a’i bod wedi cymryd y cyfle i ddangos y gêm heno’n fyw o 6.45 ymlaen a, gobeithio, gweld y Seintiau Newydd yn dal i lwyddo ym Mhencampwriaeth Ewrop.

“Mae gêm dau gymal yn gallu bod yn anodd weithiau yn enwedig wrth chwarae’r gêm gynta’ adre’ ond dwi’n credu gall tîm Craig Harrison ennill.”