Y Rhyl 1–2 Bangor

Roedd diweddglo dramatig ar y Belle View brynhawn Sadwrn wrth i gôl hwyr Sion Edwards ennill y gêm i Fangor yn erbyn y Rhyl yn nhrydedd rownd Cwpan Cymru.

Un yr un oedd hi gyda naw deg munud ar y cloc ond nid oedd angen amser ychwanegol diolch i gôl unigol wych seren y gêm, Sion Edwards, yn yr amser a ganiateir am anafiadau.

Bangor oedd y tîm gorau yn yr hanner awr agoriadol a Sion Edwards oedd y prif fygythiad ond gwnaeth Alex Ramsay’n dda i gadw’r gêm yn ddi sgôr.

Arbedodd y golwr ifanc y Rhyl gynnig Sion Edwards yn dilyn rhediad da gan yr asgellwr wedi deuddeg munud, a gwnaeth arbediad dwbl da i atal Chris Jones ac Edwards wedi ychydig dros hanner awr.

O fewn munud i’r digwyddiad hwnnw dyfarnwyd cic o’r smotyn ddadleuol yn y pen arall. Roedd hi’n ymddangos fod Damien Allen wedi ennill y bêl gyda’i dacl yn y cwrt cosbi ond pwyntiodd y dyfarnwr at y smotyn a chafodd Lee Idzi ei guro o ddeuddeg llath gan Steve Lewis.

Doedd y Dinasyddion ddim yn haeddu bod ar ei hôl hi ac roeddynt yn gyfartal ddau funud cyn hanner amser wedi i Anthony Miley benio cic rydd Sion Edwards i gefn y rhwyd.

Roedd y Rhyl yn well wedi’r egwyl ac roedd Lewis yn ddraenen gyson yn ystlys Bangor. Anelodd yr ymosodwr mawr ergyd i’r rhwyd ochr yn dilyn gwaith da ar ochr chwith y cwrt cosbi yn gynnar yn yr hanner a chafodd cynnig arall ganddo ei glirio oddi ar y llinell toc wedi’r awr.

Cafodd Lewis ei eilyddio serch hynny chwarter awr o’r diwedd ac ar wahân i ergyd o bellter gan Danny Laverty ychydig iawn o fygythiad a gafwyd gan y Rhyl wedi hynny.

Wedi dweud hynny, chafodd Bangor ddim llawer o gyfleoedd chwaith, ond roedd un yn ddigon wrth i Sion Edwards ei hennill hi mewn steil yn yr eiliadau olaf. Dechreuodd ei rediad ar yr asgell chwith gan anelu am y cwrt cosbi yn curo tri amddiffynnwr ar ei ffordd cyn taro ergyd isel droed chwith i gornel isaf y gôl.

Gêm a oedd yn bell o fod yn glasur ond gôl oedd yn haeddu ennill unrhyw gêm. Mae brwydr anodd arall yn aros Bangor yn y bedwaredd rownd gyda thaith i Airbus.

.

Y Rhyl

Tîm: Ramsey, Woodward, Rimmer, Astles, Benson, Laverty (Donegan 78’), Walsh, Forbes, McManus, Roberts, Lewis (Bathurst 75’)

Gôl: Lewis 34’

Cardiau Melyn: Roberts 56’, Bathurst 77’

.

Bangor

Tîm: Idzi, Walker, Miley, Johnston, Culshaw, Allen, R. Edwards, R. Jones, C. Jones, S. Edwards, Petrie

Goliau: Miley 43’, S.Edwards 90’

Cardiau Melyn: Johnston 13’, S. Edwards 34’, Allen 80’