Kidderminster 4–2 Casnewydd

Mae Casnewydd allan o’r Cwpan FA yn dilyn cweir gan Kidderminster yn yr ail rownd yn Aggborough brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Michael Gash a Callum Gittings ddwy yr un i’r tîm cartref cyn i goliau hwyr Robbie Willmott roi gwedd ychydig mwy parchus ar y sgôr i’r ymwelwyr o Gymru.

Efallai mai Kidderminster oedd y tîm cartref ond fel y tîm o’r Ail Adran, Casnewydd oedd y ffefrynnau i ennill y gêm hon mae’n debyg. Yn sicr, doedd dim disgwyl i’r tîm o’r Gyngres fod ar y blaen o dair i ddim ar hanner amser diolch i gôl agoriadol Gash a dwy gan Gittings.

Doedd dim amheuaeth o gwbl am y canlyniad toc wedi’r awr wedi i Gash efelychu camp ei gyd ymosodwr o sgorio dwy.

Doedd dim hatric i fod i’r naill na’r llall serch hynny, ac yn wir, gorffennodd Willmott y gêm gyda dwy hefyd wrth rwydo ddwywaith yn y deuddeg munud olaf.

Goliau cysur yn unig oedd y rheiny i Gasnewydd wrth i Kidderminster ennill yn haeddianol a gadael i dîm Justin Edinburgh ganolbwyntio ar y gynghrair yn unig o nawr tan ddiwedd y tymor.

.

Kidderminster

Tîm: Lewis, Vaughan, Jackman, Fowler, Gowling, Dunkley, Lolley, Storer, Gash, Gittings (Byrne 73′), Morgan-Smith (Johnson 70′)

Goliau: Gash 19’, 63’, Gittings 28’, 43’

Cardiau Melyn: Gittings 66’, Storer 84’, Fowler 86’

.

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, Jackson, Willmott, Hughes, Worley, Oshilaja (Flynn 67′), Naylor, Chapman, Washington, Crow (Sandell 64′), Minshull (Jolley 45′)

Goliau: Willmott 79’, 83’

Cerdyn Melyn: Oshilaja 32’

.

Torf: 2,636