Crystal Palace 2–0 Caerdydd

Pwynt yn unig sydd yn gwahanu Caerdydd a thri isaf yr Uwch Gynghrair wedi i’r Adar Gleision golli yn erbyn Crystal Palace ar Barc Selhurst brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd cyn ymosodwr Caerdydd, Cameron Jerome, gôl gynnar i’r tîm cartref cyn i Marouane Chamakh ddyblu mantais yr Eryrod wedi’r egwyl i sicrhau buddugoliaeth i dîm y Cymro, Tony Pulis.

Methodd Fraizer Campbell gyfle euraidd i roi’r ymwelwyr ar y blaen yn gynnar yn y gêm, ac o fewn eiliadau roedd Jerome wedi penio croesiad Jason Puncheon heibio i David Marshall ac i gefn y rhwyd yn y pen arall.

Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond roedd Palace ym mhellach ar y blaen toc cyn yr awr diolch i foli Chamakh.

Er i Gaerdydd fwynhau digon o’r meddiant roedd eu diffyg bygythiad o flaen gôl yn amlwg eto. Dim ond Palace sydd wedi rhwydo llai’r tymor hwn, ac yn wir, tîm Tony Pulis a ddaeth agosaf at sgorio trydedd gôl y gêm ond cafodd Jerome ei atal gan Marshall y tro hwn.

Mae’r canlyniad yn codi Crystal Palace o fewn un pwynt i Gaerdydd, gyda’r Adar Gleision yn llithro un lle i’r unfed safle ar bymtheg oherwydd buddugoliaeth Norwich yn West Brom.

.

Crystal Palace

Tîm: Speroni, Ward, Moxey (Mariappa 25′), Dikgacoi, Gabbidon, Delaney, Puncheon, Jedinak, Jerome, Chamakh, Bannan (O’Keefe 84′)

Goliau: Jerome 6’, Chamakh 57’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Théophile-Catherine, John, Medel, Caulker, Turner, Cowie (Noone 45′), Whittingham, Campbell (Cornelius 68′), Mutch, Kim (Odemwingie 60′)

.

Torf: 23,705