Mae’r enwau wedi cael eu tynnu allan o’r het ar gyfer grwpiau Cwpan y Byd ym Mrasil yn 2014, gyda’r tîm cartref yn agor y gystadleuaeth yn erbyn Croatia cyn wynebu Cameroon a Mecsico.
Y grŵp caletaf o bosib fydd Grŵp B sydd yn cynnwys pencampwyr y byd Sbaen, y tîm a drechon nhw yn y ffeinal yn 2010, yr Iseldiroedd, yn ogystal â Chile ac Awstralia.
Ond dyw Lloegr heb gael grŵp hawdd o gwbl, gyda llawer o deithio a thymheredd poeth yn eu hwynebu.
Fe fyddan nhw’n chwarae gêm gyntaf eu grŵp yng ngwres llethol Manaus yn yr Amazon yn erbyn yr Eidal, cyn wynebu Uruguay a Chosta Rica hefyd yng ngrŵp D.
Y grŵp gwanaf o’r wyth o bosib yw Grŵp E, sydd yn cynnwys y Swistir, Ffrainc, Ecuador a Honduras.
Tynnu’r peli
Cafodd y peli oedd yn cynnwys enwau’r timau eu dewis o’r potiau gan nifer o sêr Cwpanau’r Byd y gorffennol, gan gynnwys Lothar Matthaus, Zinedine Zidane a Geoff Hurst.
Ac mewn ergyd greulon i’r Saeson, y person a dynnodd enw Lloegr allan o’r het ar gyfer y grŵp hwnnw oedd Hurst ei hun.
Bydd Cwpan y Byd ym Mrasil yn digwydd ym mis Mehefin a Gorffennaf 2014, gyda’r ffeinal yn cael ei chwarae yn stadiwm enwog y Maracana yn Rio de Janeiro.
Grwpiau:
A: Brasil, Cameroon, Mecsico, Croatia
B: Sbaen, Chile, Awstralia, Yr Iseldiroedd
C: Colombia, Traeth Ifori, Siapan, Groeg
D: Wrwgwai, Yr Eidal, Costa Rica, Lloegr
E: Y Swistir, Ecuador, Honduras, Ffrainc
F: Yr Ariannin, Nigeria, Iran, Bosnia-Herzegovina
G: Yr Almaen, Ghana, UDA, Portiwgal
H: Gwlad Belg, Algeria, De Corea, Rwsia