Kuban Krasnodar 1–1 Abertawe

Gorfod bodloni am gêm gyfartal ar ôl ildio gôl hwyr yn erbyn Kuban Krasnodar oedd hanes Abertawe am yr ail waith mewn pythefnos yng ngrŵp A Cynghrair Ewropa nos Iau.

Ildiodd yr Elyrch gic o’r smotyn hwyr ar y Liberty bythefnos yn ôl, ac er iddynt fynd ar y blaen yn Stadiwm Kuban hefyd diolch i gôl gynnar Wilfred Bony, fe darodd y tîm o Rwsia yn ôl i gipio pwynt gydag ymdrech hwyr Ibrahima Baldé.

Hanner Cyntaf

Cafodd Abertawe ddechrau da i’r gêm, gyda Bony’n profi Aleksandr Belenov yn y gôl wedi dim ond munud gyda pheniad o gic rydd Jonathan De Guzman.

Yna fe agorodd y blaenwr y sgorio wedi naw munud gydag ergyd isel yn dilyn gwaith creu da Álex Pozuelo.

Cafodd Kuban eu cyfleoedd cyn ac ar ôl y gôl honno ond fe anelodd Djibril Cissé a Luiz Reame ill dau yn syth at Vorm.

Cafodd yr Elyrch gyfleoedd i ddyblu eu mantais cyn yr egwyl hefyd. Crafodd ergyd Roland Lamah heibio’r postyn a gorfododd Nathan Dyer ddau arbediad gan Belenov gyda dwy ergyd o ochr y cwrt cosbi.

Ail Hanner

Abertawe a gafodd y gorau o’r meddiant drwyddi draw ond fe ddaeth Kuban fwyfwy iddi wrth i’w ail hanner fynd yn ei flaen.

Ychydig o gyfleoedd a grëwyd gan y ddau dîm serch hynny ac roedd rhywun yn teimlo fod Abertawe wedi gwneud digon pan gafodd Luiz Reame ei anfon o’r cae gyda chwarter awr yn weddill ar ôl derbyn ail gerdyn melyn braidd yn hallt.

Ond er i Abertawe adennill rheolaeth ar y gêm wedi hynny wnaethon nhw ddim bygwth sgorio ail a chawsant eu cosbi am hynny yn yr ail funud o’r amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Daeth Ivelin Popov o hyd i Baldé yn y cwrt chwech gyda chyffyrddiad gwych a chododd yntau’r bêl yn gelfydd dros Michel Vorm gyda chyffyrddiad hyd yn oed gwell, wrth i Kuban gipio dau bwynt oddi ar yr Elyrch yn yr eiliadau olaf unwaith eto.

Mae Abertawe yn llithro i’r ail safle yng ngrŵp A yn dilyn y canlyniad ond dylai un pwynt o’r ddwy gêm grŵp olaf fod yn ddigon i sicrhau eu lle yn y rownd nesaf.

.

Kuban Krasnodar

Tîm: Belenov, Kozlov, Bugayev, Kaboré, Luiz Reame, Dealbert, Khubulov (Ignatjev 66′), Tlisov (Fidler 78′), Cissé, Popov, Melgarejo (Baldé 74′)

Gôl: Baldé 90’

Cardiau Melyn: Luiz Reame 1’, Dealbert 90’

Cerdyn Coch: Luiz Reame

.

Abertawe

Tîm: Vorm, Tiendalli, Davies, Cañas, Amat, Williams, Dyer (Rangel 62′), De Guzmán, Bony (Alvaro 72′), Pozuelo, Lamah (Routledge 62′)

Gôl: Bony 9’

Cerdyn Melyn: Tiendalli 56’

.

Torf: 31,000