Mae’r Awstraliad Marnus Labuschagne wedi ymestyn ei gytundeb gyda Chlwb Criced Morgannwg tan ddiwedd tymor 2022.

Roedd ganddo fe gytundeb yn wreiddiol ar gyfer y tymor hwn a’r tymor nesaf, ond daeth cadarnhad heddiw (dydd Gwener, Mehefin 19) na fydd e’n dod i Gymru y tymor hwn, hyd yn oed pe bai modd cynnal gemau cyn diwedd y tymor.

Sgoriodd y batiwr tramor 1,114 o rediadau dosbarth cyntaf y tymor diwethaf ar gyfartaledd o fwy na 65, ac fe wnaeth e daro pum canred a phum hanner canred cyn ennill ei le yng ngharfan Awstralia ar gyfer Cyfres y Lludw yn Lloegr – gan ddod i’r cae fel yr eilydd cyfergyd cyntaf erioed mewn gêm griced.

Fe oedd y batiwr cyntaf i sgorio 1,000 o rediadau yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf, gan gipio 19 o wicedi fel troellwr coes.

Cafodd ei enwi’n un o bum Cricedwr y Flwyddyn gan Wisden yn gynharach eleni.

Canmol Caerdydd a’r Cymry

Yn ôl Marnus Labuschagne, roedd yn “benderfyniad hawdd” i ymestyn ei gytundeb gyda’r sir ac “i ymrwymo i Forgannwg a Chymru”.

“Ro’n i wedi siomi’n fawr o fethu â dychwelyd i Forgannwg ar gyfer tymor 2020 ar ôl bod wrth fy modd yn fy mlwyddyn gyntaf yma, felly dw i wrth fy modd o ymrwymo eto i’r clwb am y blynyddoedd nesaf.

“Fe wnaeth gweithio gyda Matt Maynard [y prif hyfforddwr] helpu i fynd â fy ngêm i’r lefel nesaf a dw i’n edrych ymlaen at gydweithio â fe eto a chwarae gyda chriw talentog dros ben o gyd-chwaraewyr.

“Mae Caerdydd yn ddinas wych i fyw ynddi , roedd y Cymry a’n cefnogwyr ni’n wych gyda fi – dyw hi ddim bob amser yn hawdd dod o hyd i lefydd lle’r ydych chi’n teimlo’n gyfforddus ac yn gartrefol mor gyflym.

“Ro’n i wrth fy modd gyda’r awyrgylch yn yr ystafell newid yn fy mlwyddyn gyntaf a dw i’n edrych ymlaen at chwarae criced gyda nhw eto.”

‘Brwdfrydedd heintus’

Mae Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced, wedi talu teyrnged i “frwdfrydedd heintus” Marnus Labuschagne.

“Mae’n arwydd o gymeriad Marnus nad oedd e wedi oedi cyn ymestyn ei gytundeb, a’i fod e wedi bod yn awyddus i wneud hynny pan sylweddolon ni na fyddai’n gallu dod draw i chwarae i ni yn 2020.

“Mae e wedi ymrwymo i’r hyn rydyn ni’n ceisio’i gyflawni yma yn y clwb, ac mae’n arwydd ein bod ni’n symud yn y cyfeiriad cywir pan fo un o chwaraewyr gorau’r byd criced yn ymrwymo i ddychwelyd ac aros gyda’ch clwb.

“Mae Marnus yn caru criced ac mae ei frwdfrydedd yn heintus, ac mae e’n dod ag egni anhygoel i’r tîm, sy’n codi pobol eraill o’i gwmpas e.

“Mae’r staff hyfforddi’n ei garu fe, ac rydym yn edrych ymlaen at ei gael e o gwmpas yn 2021 a 2022, a thu hwnt.”