Mae cefnogwyr Morgannwg wedi hen arfer â cholli’n drwm ar hyd y blynyddoedd, ond go brin fod neb yn disgwyl y grasfa gawson nhw yn erbyn Sussex yn Hove ddwy flynedd yn ôl.

Ddwywaith yn unig enillon nhw yn y Bencampwriaeth y tymor hwnnw, ond fe gyrhaeddon nhw’r gwaelodion isaf posib wrth gael eu bowlio allan am 88 ac 85, wrth i’r gêm ddirwyn i ben o fewn diwrnod a hanner allan o bedwar.

Ar ôl i Sussex sgorio 327, diolch yn bennaf i fatio campus Luke Wells (71), roedd hi’n edrych yn debygol fod digon yn y llain i gynorthwyo’r batwyr – ond fe wnaeth Morgannwg bopeth i wrthbrofi’r ddamcaniaeth honno.

Dim ond Chris Cooke (32) a Lukas Carey (17) lwyddodd i gyrraedd ffigurau dwbwl yn y batiad cyntaf, wrth i Jofra Archer (4-15) a Chris Jordan (3-23) achosi cryn embaras i’r sir Gymreig.

Ac roedd arwyddion eisoes o ddoniau aruthrol Jofra Archer, ymhell cyn iddo fowlio’r un belen dros Loegr, wrth iddo orfodi Morgannwg i ganlyn ymlaen, cyn cipio pedair wiced arall am 31 yn yr ail fatiad, ac Ollie Robinson yn cipio tair am 20, gyda dwy wiced arall i Chris Jordan.

Roedd y ffaith fod Morgannwg wedi cael eu bowlio allan ddwywaith o fewn dwy sesiwn yn arwydd o’r hyn oedd i ddod, ac fe gafodd y prif hyfforddwr Robert Croft ei ddiswyddo ar ddiwedd y tymor.