Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr yn dweud na fydd unrhyw griced sirol tan o leiaf fis Gorffennaf.

Daw’r cyhoeddiad yn sgil y mesurau coronafeirws sy’n dal yn eu lle, ac mae’r corff sy’n rheoli criced proffesiynol yn dweud eu bod nhw’n dilyn cyngor meddygol Llywodraeth Prydain wrth wneud penderfyniadau, ac yn trafod y sefyllfa â darlledwyr.

Yn dilyn cyfarfod, mae’r Bwrdd wedi gwneud nifer o benderfyniadau:

  • Bydd naw gêm Bencampwriaeth wedi’u canslo ond pe bai modd dechrau’r tymor yn hwyrach, bydd blociau’n cael eu neilltuo ar gyfer gemau pedwar diwrnod a gemau undydd.
  • Bydd gemau ugain pelawd y Vitality Blast yn cael eu cynnal mor hwyr â phosib yn y tymor, gyda’r gemau oedd i fod i gael eu cynnal ym mis Mehefin yn cael eu symud yn hytrach na’u canslo.
  • Mae bwriad i gynnal gemau rhyngwladol y dynion a’r merched o fis Gorffennaf hyd at fis Medi.
  • Bydd cyfarfod ddydd Mercher nesaf (Ebrill 29) i drafod y gystadleuaeth Can Pelen.

Mewn datganiad, mae Morgannwg yn dweud y bydd penderfyniad ynghylch tâl aelodaeth unwaith fydd y darlun llawn ar gael ac y byddan nhw’n ystyried sut i ad-dalu pobol sydd eisoes wedi prynu tocynnau tymor.

‘Fydd dim criced oni bai ei bod yn ddiogel i chwarae’

“Maein rôl fel corff llywodraethu cenedlaethol yn ystod argyfwng ar y raddfa yma yn gofyn ein bod ni’n cynllunio’n ofalus ochr yn ochr â rhanddeiliaid a chefnogwyr criced i geisio goresgyn effaith COVID-19 ar y tymor hwn,” meddai Tom Harrison, prif weithredwr Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.

“Er cymaint rydyn ni’n parhau’n obeithiol y gallwn ni gyflwyno rhywfaint o griced yr haf yma, rydyn ni ynghanol argyfwng byd-eang a’n blaenoriaeth – uwchlaw chwarae chwaraeon proffesiynol – yw gwarchod y rhai bregus, gweithwyr allweddol a’r gymdeithas gyfan.

“Dyna pam, yn syml iawn, fydd dim criced oni bai ei body n ddiogel i chwarae.

“Dim on dos bydd canllawiau’r Llywodraeth yn ei alluogi y bydd ein hamserlen yn mynd yn ei blaen.”

Heriau

Mae’n dweud ymhellach fod nifer o heriau’n wynebu’r gêm yn sgil y feirws.

“Ein her fwyaf, ynghyd â chwaraeon eraill, yw sut y gallen ni gyflwyno ateb bio-ddiogel sy’n cynnig y diogelwch mwyaf i bawb,” meddai wedyn.

“Bydd yr arweiniad gawn ni gan San Steffan yn ein helpu i lunio sut rydyn ni am gyflwyno hyn.

“Ein cynllun yw ail-drefnu gemau rhyngwladol mor hwyr â phosib yn y tymor er mwyn rhoi’r siawns orau o chwarae.

“Bydd y Vitality Blast nawr yn cael y slot hwyraf posib yn y tymor hefyd, er mwyn cynnig cymaint o amser â phosib i chwarae cystadleuaeth sirol fer.

“Dw i am ddiolch i bawb ynghlwm yn y gwaith cymhleth a sensitif hwn.

“Ni fu amserau fel hyn o’r blaen, yn amlwg, ac mae fy nghydweithwyr ym Mwrdd Criced Cymru a Lloegr ac ar draws y gêm wedi bod yn rhagorol yn ystod y cyfnod hwn.

“Mae wedi bod yn braf, ond nid yn syndod, gweld sut mae’r byd criced wedi dod ynghyd.”