Does dim un Cymro yng ngharfan Tân Cymreig, y tîm criced dinesig a fydd yn cynrychioli Caerdydd yng nghystadleuaeth can pelen The Hundred y tymor nesaf.

Cafodd yr wyth carfan eu dewis heno, gyda’r timau’n cynrychioli Caerdydd, Manceinion, Llundain (dau dîm), Nottingham, Southampton, Leeds a Birmingham.

Yr unig chwaraewr o Forgannwg yn y garfan yw’r capten undydd Colin Ingram o Dde Affrica, a gafodd ei ddewis ymlaen llaw.

Mae dau o chwaraewyr Morgannwg wedi’u dewis i dimau eraill, sef Chris Cooke (Birmingham) a Marchant de Lange (Manceinion) – y ddau yn enedigol o Dde Affrica.

Yr unig Gymro o ran genedigaeth yn y gystadleuaeth yw Phil Salt, a gafodd ei eni ym Modelwyddan ac sydd wedi’i ddewis gan Fanceinion.

Sut oedd y broses yn gweithio?

Roedd saith rownd i gyd, gyda phob tîm yn cael dewis dau chwaraewr ym mhob rownd.

Tân Cymreig oedd y pedwerydd tîm i ddewis yn y rownd gyntaf, a’r drefn yn mynd am yn ôl fesul rownd.

Roedd y chwaraewyr yn costio symiau gwahanol ym mhob rownd – £125,000 yn y rownd gyntaf, £100,000 yn yr ail, £75,000 yn y drydedd, £60,000 yn y bedwaredd, £50,000 yn y bumed, £40,000 yn y chweched a £30,000 yn y seithfed.

Roedd gan bob tîm yr hawl i ddewis uchafswm o dri chwaraewr tramor, ac roedden nhw eisoes wedi dewis dau chwaraewr lleol ac un chwaraewr rhyngwladol â chytundeb canolog gan Loegr cyn y broses heno.

Jonny Bairstow, Colin Ingram a Tom Banton oedd dewisiadau cyntaf Tân Cymreig, gyda Colin Ingram a Tom Banton yn llenwi’r blychau £100,000.

Roedd gan bob tîm 100 eiliad i ddewis pob chwaraewr yn eu tro.

Gall y chwaraewyr hynny oedd wedi cofrestru ond heb gael eu dewis gael eu tynnu i mewn fel eilydd yn ystod y gystadleuaeth, ond rhaid bod y tîm hwnnw wedi cynnig y pris llawn am y chwaraewr.

Bydd pob tîm yn cael dewis un chwaraewr olaf ar ddiwedd cystadleuaeth ugain pelawd sirol y Vitality Blast y tymor nesaf.

Y gystadleuaeth

 Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal rhwng Gorffennaf 17 ac Awst 16 y flwyddyn nesaf.

Bydd 32 gêm i gyd, gyda phob tîm yn herio’i gilydd unwaith, ac eithrio’r timau sydd wedi’u paru, a fydd yn chwarae yn erbyn ei gilydd ddwywaith – bydd Tân Cymreig yn herio Southern Brave.

Bydd y tîm ar frig y tabl yn mynd i’r ffeinal, a’r ail a’r trydydd timau’n herio’i gilydd am yr ail le yn y gêm derfynol.

Bydd y BBC yn darlledu 10 gêm y dynion ac wyth gêm y menywod.

Y garfan

Chwaraewr rhyngwladol Lloegr – Jonny Bairstow

£125,000 – Steve Smith, Mitchell Starc

£100,000 – Colin Ingram, Tom Banton

£75,000 – Ravi Rampaul, Ben Duckett

£60,000 – Simon Harmer, Qais Ahmed

£50,000 – Liam Plunkett, Ryan ten Doeschate

£40,000 – David Payne, Ryan Higgins

£30,000 – Danny Briggs, Leus du Plooy