Fe wnaeth Marnus Labuschagne, batiwr tramor tîm criced Morgannwg, gwblhau hatric o wobrau neithiwr (nos Lun, Medi 30), wrth iddo gael ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn Orielwyr San Helen.

Dros y penwythnos, cafodd yr Awstraliad ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn gan Glwb Criced Morgannwg ac yn Chwaraewr y Flwyddyn y Bencampwriaeth, a hynny ar ôl cael lle yn nhîm y flwyddyn y BBC ar gyfer Pencampwriaeth y Siroedd.

Cafodd gwobr yr Orielwyr ei chyflwyno i Alan Jones, cyn-lywydd y clwb, ar ran yr enillydd, sydd bellach wedi dychwelyd i Awstralia ar gyfer y tymor newydd yn y fan honno.

Sgoriodd e dros 1,000 o rediadau yn y Bencampwriaeth, a fe oedd y chwaraewr cyntaf yng Nghymru a Lloegr i gyrraedd y nod yn ystod y tymor.

Yn y pen draw, fe orffennodd e’r tymor gyda 1,114 o rediadau dosbarth cyntaf ar gyfartaledd o fwy na 65, ac fe darodd e bum canred, gan gynnwys 182 yn erbyn Sussex, ei sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed.

Daeth y sgôr hwnnw wrth iddo adeiladu partneriaeth o 291 gyd Nick Selman, sy’n record ar gyfer partneriaeth ail wiced i Forgannwg, ac fe gafodd y gamp honno ei chydnabod gan yr Orielwyr yng Ngwesty’r Towers yn Jersey Marine hefyd.

Gyda’r bêl, cipiodd Marnus Labuschagne 19 o wicedi fel troellwr coes.

Gwobrau eraill

Y batiwr Joe Cooke enillodd y wobr ar gyfer Chwaraewr Ail Dîm y Flwyddyn, ac yntau yn ei dymor cyntaf gyda’r sir ar ôl symud o Swydd Hertford, lle mae e hefyd yn chwarae i Glwb Criced Radlett.

Aeth Gwobr Gerry Munday, ar gyfer y chwaraewr ail dîm sydd wedi datblygu orau, i Tom Cullen, wicedwr wrth gefn y tîm cyntaf a gyfrannodd sawl hanner canred gyda’r bat yn absenoldeb y capten Chris Cooke ar ddechrau’r tymor.

Cafodd nifer o wobrau eu cyflwyno am berfformiadau unigol yn ystod y tymor, i Marnus Labuschagne, Andrew Salter, Michael Hogan, Graham Wagg, Lukas Carey, Nick Selman, Billy Root, Chris Cooke a Tom Cullen.

Gwobrau Clwb Criced Morgannwg

Wrth i’r clwb hefyd gyflwyno gwobrau, cafodd gwobr Chwaraewr Ifanc y Clwb – er cof am y cyn-brif hyfforddwr John Derrick – ei chyflwyno i Dan Douthwaite, gynt o Brifysgolion Caerdydd yr MCC.

Aeth y wobr am Chwaraewr Undydd y Flwyddyn i David Lloyd, y chwaraewr amryddawn o Wrecsam.

Cafodd y bowliwr cyflym, Roman Walker o Wrecsam ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn yr Ail Dîm, ac yntau’n aelod o’r tîm a gipiodd dlws ugain pelawd y tymor hwn.

Sam Jardine gipiodd wobr Chwaraewr y Flwyddyn yr Academi.