Mae Kraigg Brathwaite, batiwr India’r Gorllewin, wedi ymuno â Chlwb Criced Morgannwg am weddill y tymor.

Mae’n cymryd lle yr Awstraliad Shaun Marsh, sydd wedi mynd adref i baratoi ar gyfer y tymor criced gyda Gorllewin Awstralia.

Fe fydd Morgannwg yn mynd am ddyrchafiad i adran gynta’r Bencampwriaeth gyda gemau yn erbyn siroedd Caerwrangon, Caerlŷr a Durham.

Mae Kraigg Brathwaite wedi sgorio 9,179 o rediadau dosbarth cyntaf ar gyfartaledd o bron i 39, gan daro 21 canred a 48 hanner canred.

Fe ddaeth i amlygrwydd ar y llwyfan rhyngwladol yn 19 oed, ac mae e wedi cynrychioli India’r Gorllewin 57 o weithiau mewn gemau prawf, gan daro wyth canred ac 17 hanner canred.

Daeth ei sgôr gorau mewn gêm brawf, 212, yn erbyn Bangladesh yn 2014.

Roedd e’n aelod o dîm India’r Gorllewin a drechodd Loegr o bum wiced yn Headlingley yn 2017.

Helpu’r tîm

“Dw i wedi cyffroi’n fawr o gael ymuno â Morgannwg, a gobeithio y galla i gyfrannu at y tîm yn eu gemau pwysig ar ddiwedd y tymor,” meddai Kraigg Brathwaite.

“Dw i’n mwynhau chwarae criced yng Nghymru a Lloegr yn fawr iawn, a bydda i’n gwneud fy ngorau i ychwanegu cynifer o rediadau a wicedi â phosib i helpu’r tîm.”

Ac mae Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, yn dweud bod y sir yn ffodus o gael chwarae o safon Kraigg Brathwaite ar fyr rybudd.

“Rydyn ni yn y ras am y tri uchaf, ac rydyn ni’n credu y bydd gallu Kraigg gyda’r bat a’i brofiad rhyngwladol o fudd mawr i’r clwb ac i’r chwaraewyr o’i gwmpas e.

“Mae e wedi cael sawl batiad da o amgylch y byd, a gyda’i brofiad blaenorol yn yr amodau hyn gydag India’r Gorllewin, Swydd Efrog a Swydd Nottingham, rydym yn hyderus y bydd e’n bwrw iddi.”