Daeth y byd criced yng Nghymru ynghyd ddydd Mawrth (Awst 27) i ddathlu bywyd Malcolm Nash – bron 51 o flynyddoedd union ers y digwyddiad a ddaeth â’r cricedwr o’r Fenni i sylw’r byd.

Ar Awst 31, 1968, cafodd y bowliwr llaw chwith ei daro am chwech chwech mewn pelawd gan Garry Sobers mewn gêm Bencampwriaeth rhwng Morgannwg a Swydd Nottingham yn San Helen, Abertawe.

Mae’r digwyddiad wedi’i gynnwys ymhlith y digwyddiadau mwyaf eiconig sy’n cael eu nodi fel rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant Abertawe’n ddinas eleni.

Fe fu Malcolm Nash farw yn Llundain fis diwethaf yn 74 oed, ac fe gafodd ei angladd ei gynnal yn ardal yr Uplands yn Abertawe, 11 mis ar ôl dathlu hanner canmlwyddiant ei awr fawr.

Ac yntau fel arfer yn fowliwr sêm llaw chwith, fe ddaeth e’n droellwr ar y diwrnod hwnnw wrth i fatiad Swydd Nottingham ddirwyn i ben.

Fe ddaeth o fewn trwch blewyn yn 1977 i ddiodde’r anffawd unwaith eto ar yr un cae, wrth i Frank Hayes o Swydd Gaerhirfryn ei daro am 34 mewn pelawd. Aeth yr ail belen am bedwar.

Gweddill ei yrfa a theyrngedau iddo

Ond dydy’r belawd anffodus honno ddim yn adlewyrchiad teg o weddill ei yrfa, ac yntau wedi cipio 993 o wicedi a sgorio dros 7,000 o rediadau, ac yntau hefyd yn aelod blaenllaw o’r tîm a enillodd Bencampwriaeth y Siroedd yn 1969.

Wedi’i eni a’i fagu yn y Fenni, fe fu’n byw yn Abertawe yn ystod blynyddoedd ola’i fywyd ar ôl dod adre’ o’r Unol Daleithiau.

Ac yntau’n fowliwr llaw chwith cywir ac yn fatiwr llaw chwith pwerus tua gwaelod y rhestr, fe ddaeth ei gêm gyntaf yn 1966, ac yntau wedi dysgu ei grefft yn Ysgol Eglwys Gadeiriol Wells yng Ngwlad yr Haf, lle’r oedd e hefyd yn chwaraewr hoci o’r radd flaenaf, a hefyd yn ei glwb lleol yn y Fenni.

Fe gipiodd e 991 allan o’i 993 o wicedi i Forgannwg, sy’n ei osod yn bumed ar y rhestr o fowlwyr gorau’r sir, ac fe sgoriodd e dros 7,000 o wicedi yn ystod ei yrfa a barodd 18 tymor rhwng 1966 a 1983.

Roedd e’n gapten ar Forgannwg am ddau dymor yn 1980 a 1981.

Ef oedd prif fowliwr y sir pan enillodd Morgannwg Bencampwriaeth y Siroedd yn 1969, gan gipio 71 o wicedi ar gyfartaledd o 18.

Fe gafodd e dreialon gyda Lloegr yn 1976 a flwyddyn yn ddiweddarach, roedd e’n aelod allweddol o dîm Morgannwg wrth iddyn nhw gyrraedd rownd derfynol Cwpan Gillette yn Lord’s.

Fe wnaeth e ymddeol yn 1983 ac o’r fan honno, fe aeth yn ei flaen i chwarae criced Siroedd Llai i Swydd Amwythig, wrth iddyn nhw guro Swydd Efrog yng Nghwpan NatWest yn 1984.

Byw a gweithio dramor

Fe fu’n byw yng Nghanada am gyfnod cyn symud i Kansas ac yna i Galiffornia, lle bu’n gweithio ym myd criced, gan farchnata a hyfforddi mewn ardaloedd lle mae’r gêm yn parhau i dyfu.

Roedd yn briodol, felly, fod un o’r teyrngedau yn ystod y gwasanaeth wedi dod gan Glwb Criced Marin yng Nghaliffornia.

Daeth y brif deyrnged gan Paul Sussex, ffrind agos ac aelod o Orielwyr San Helen ac fe ddarllenodd e deyrnged gan Greg Thomas, cyn-fowliwr cyflym Morgannwg a Lloegr.

Chwaraeodd Greg Thomas a Malcolm Nash yn yr un tîm rhwng 1979 a 1983.

Fe dystiodd y ddwy deyrnged i’w allu fel cricedwr ond hefyd fel ‘dyn’ – a blaenlythrennau enw Malcolm Andrew Nash yn sillafu’r gair ‘MAN’.

Y dyn teulu a bywyd y tu hwnt i’r byd criced

Fe glywodd teulu a ffrindiau Malcolm Nash straeon am ei ddoniau fel golffiwr yng nghlwb golff Langland.

Fe fydd yn cael ei gofio am ei orchestion ar y deuddegfed twll, sy’n ymdebygu i goes ci, ac yntau’n gallu cyrraedd y nod mewn un ergyd yn llai na’r rhan fwyaf o chwaraewyr.

Fel yr awgryma teitl ei hunangofiant, Not Only, But Also (St. David’s Press) – a gafodd ei gyhoeddi i nodi hanner canmlwyddiant y chwech chwech – mae llawer mwy i’r dyn a ddaeth i amlygrwydd yn sgil gorchestion rhywun arall.

Fe hoffai atgoffa Garry Sobers na fyddai wedi gallu cyflawni ei gamp oni bai ei fod e’n bowlio ben arall y llain.

Nid yn unig roedd Malcolm Nash yn gricedwr dawnus ond yn bwysicach na hynny, roedd e’n dad ac yn dad-cu.

Daeth y deyrnged fwyaf personol gan ei ferch Amba.

I’r byd criced, Malcolm Andrew Nash oedd y cricedwr a gafodd bum munud o enwogrwydd.

I Amba, ei thad oedd e.