Fe fydd y to iau yn cael cyfle arall heddiw (dydd Llun, Awst 26) wrth i Forgannwg groesawu Sussex i Erddi Sophia ar gyfer gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast.

Daw’r ornest ddeuddydd yn unig ar ôl i Forgannwg golli o 25 o rediadau yn erbyn Gwlad yr Haf o flaen camerâu SKY Sports nos Sadwrn.

Mae’r sir Gymreig yn dal heb fuddugoliaeth yn y gystadleuaeth, ac yn aros ar waelod y tabl gyda dim ond y gêm hon ac un arall yn erbyn Hampshire i ddod.

Mae Sussex eisoes wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf ac yn mynd am gêm gartref, ac felly bydd Morgannwg dan fwy o bwysau fyth i osgoi colli eu holl gemau yn y gystadleuaeth wrth iddyn nhw hefyd herio Hampshire yn y gêm olaf.

David Lloyd, y chwaraewr amryddawn o Wrecsam, yw un o’r ychydig chwaraewyr sydd wedi perfformio’n dda yn y gystadleuaeth, ac fe darodd ei drydydd hanner canred nos Sadwrn.

Gorffen yn gryf?

Bowliodd Roman Walker o Wrecsam a Marchant de Lange yn dda nos Sadwrn i gipio wicedi’n ofer, a rhaid canmol perfformiad Callum Taylor o Gasnewydd wrth fowlio a maesu’n gryf.

“Mi fasa cwpwl o fuddugoliaethau yn erbyn Siarcod Sussex a Hampshire yn ddelfrydol,” meddai David Lloyd ar drothwy’r gêm olaf ond un.

“Mae’r ddau dîm yn dal i chwilio am le yn rownd yr wyth olaf, felly mi fasa’n braf trechu’r ddau ohonyn nhw a niweidio’u gobeithion o gyrraedd y rowndiau olaf.

“Dyna sydd gynnon ni i chwarae amdano fo rŵan. Rydan ni wedi’n claddu yn y Vitality Blast, felly dim ond parchusrwydd sydd gynnon ni i chwarae amdano fo, a rhoi rhywbeth i’r bobol sydd wedi’n cefnogi ni i floeddio yn ei gylch o.

“Dydy hi ddim yn neis mynd drwy ymgyrch gyfan heb fuddugoliaeth, ond mi fyddwn ni’n troi i fyny eto ddydd Llun a cheisio chwarae’r math o griced rydan ni wedi’i wneud yn dda yn y gorffennol.”

Y gwrthwynebwyr

Byddai buddugoliaeth i Sussex yn sicrhau eu bod nhw’n gorffen ar frig y grŵp, ac felly’n cael chwarae ar eu tomen eu hunain yn rownd yr wyth olaf.

Mae Luke Wright, sydd wedi sgorio 319 o rediadau, yn seithfed ar restr prif sgorwyr y gystadleuaeth, ynghyd â Phil Salt, sy’n enedigol o Fodelwyddan, yn y degfed safle gyda 306 o rediadau.

Mae Phil Salt hefyd wedi cipio 13 daliad, tri yn fwy nag unrhyw un arall yn y gystadleuaeth.

Mae Reece Topley, y bowliwr cyflym llaw chwith, yn nawfed ar restr y nifer fwyaf o wicedi, ar ôl cipio 15 mewn wyth gêm.

Ac mae Will Beer, y troellwr coes, wedi cipio chwe wiced mewn 11 pelawd yn ei dair gêm hyd yn hyn.

Morgannwg: D Lloyd, N Selman, S Marsh, C Ingram (capten), C Cooke, C Taylor, R Smith, A Salter, M de Lange, R Walker, P Sisodiya

Sussex: L Wright (capten), W Beer, J Behrendorff, D Briggs, A Carey, L Evans, C Jordan, D Rawlins, O Robinson, P Salt, D Wiese

Sgorfwrdd