Mae Fakhar Zaman, y batiwr 29 oed o Bacistan, wedi ymuno â Chlwb Criced Morgannwg am wyth gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast.

Bydd e’n chwarae yn lle Shaun Marsh, yr Awstraliad a gafodd ei anfu yn ystod Cwpan y Byd.

Mae e wedi chwarae mewn 89 o gemau ugain pelawd yn ystod ei yrfa, gan gynnwys 30 o gemau rhyngwladol, ac wedi sgorio dros 2,300 o rediadau ar gyfartaledd o 28, a chyfradd sgorio o bron i 140.

‘Wrth fy modd’

“Rwy wrth fy modd o gael arwyddo i Forgannwg, a dw i’n edrych ymlaen at chwarae yng Nghaerdydd,” meddai.

“Mae gyda fi atgofion melys o’r cae o’n gêm gyn-derfynol yn Nhlws Pencampwyr yr ICC yn 2017, a dw i’n edrych ymlaen at greu rhai newydd.

“Mae Morgannwg yn glwb gwych, a gobeithio y gallai ennill gemau i’r tîm yn ystod fy nghyfnod yma.”

‘Un o’r batwyr mwyaf dinistriol yn y byd’

“Mae’n destun siom ein bod ni wedi colli Shaun Marsh ar ddechrau’r gystadleuaeth, ond mae sicrhau gwasanaeth Fakhar yn fyr rybudd yn newyddion gwych i’r clwb,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Mae e’n gricedwr gwych ac yn un o’r batwyr mwyaf dinistriol yn y byd, a chanddo fe hanes o berfformio mewn gemau mawr.

“R’yn ni’n edrych ymlaen at yr wythnos hon pan fydd e’n ymuno â ni, a gobeithio y bydd e’n barod i chwarae yn ein gêm gyntaf yn erbyn Gwlad yr Haf a bwrw iddi.”