Mae Middlesex mewn sefyllfa gref ar ddechrau ail ddiwrnod eu gêm yn ail adran y Bencampwriaeth yn erbyn Morgannwg yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd.

Ar ôl bod yn 65 am bedair yn ystod y bore cyntaf ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 13), tarodd y batwyr olaf yn ôl i gyrraedd cyfanswm o 384 cyn cael eu bowlio allan.

Sgoriodd Dawid Malan 166 mewn batiad o fwy na phump awr, gan wynebu 194 o belenni, gan daro 22 pedwar a thri chwech – ei bedwerydd canred a’i drydydd sgôr dros 150 y tymor hwn.

Erbyn i’r batiad ddod i ben, roedd Lukas Carey wedi cipio pedair wiced, gyda Michael Hogan yn cipio tair.

Mae Morgannwg yn dechrau’r ail ddiwrnod ar 25 am bedair, ar ôl i Tom Helm gipio pedair wiced am wyth mewn pedair pelawd.

Dechrau da i Forgannwg

Ar ôl galw’n gywir, mae’n siŵr fod Middlesex yn difaru batio, wrth iddyn nhw lithro i 65 am bedair o fewn 18.2 o belawdau ar y bore cyntaf.

Lukas Carey gipiodd y wiced gyntaf, wrth i Sam Robson roi daliad syml i’r wicedwr a’r capten Chris Cooke, sy’n chwarae yn ei gêm gyntaf ers mis Mai, ar ôl gwella o anaf i’w goes.

Bedair pelawd yn ddiweddarach, cafodd Nick Gubbins ei ddal gan Marnus Labuschagne yn safle’r trydydd slip oddi ar fowlio Lukas Carey heb sgorio.

Tarodd Steve Eskinazi bum ergyd am bedwar wrth sgorio 36 ac ar ôl i Graham Wagg gael ei daro am 12 yn ei belawd gyntaf, fe darodd e’n ôl i waredu’r batiwr oddi ar ail belen ei ail belawd, wrth i Chris Cooke gipio’i ail ddaliad.

Cwympodd y bedwaredd wiced pan gafodd George Scott ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Michael Hogan am un.

Middlesex yn taro’n ôl

Daeth ychydig o achubiaeth i Middlesex, wrth i Dawid Malan a John Simpson sefydlogi’r batiad i gyrraedd 115 am bedair erbyn amser cinio.

Parhau wnaeth llwyddiant Morgannwg ar ôl amser cinio, pan gafodd John Simpson ei ddal yn gelfydd i lawr ochr y goes gan Chris Cooke oddi ar fowlio Michael Hogan am 24, a’r sgôr erbyn hynny’n 123 am bump.

Cyrhaeddodd Dawid Malan ei hanner canred oddi ar 73 o belenni, ar ôl taro deg pedwar ond yn fuan wedyn, cafodd Robbie White ei fowlio gan Michael Hogan am ddau, a’r sgôr yn 131 am chwech.

Aeth Dawid Malan yn ei flaen i gyrraedd y garreg filltir o 11,000 o rediadau dosbarth cyntaf yn ystod ei fatiad.

Cyrhaeddodd Toby Roland-Jones ei hanner canred oddi ar 68 o belenni, ar ôl taro naw pedwar ac un chwech, mewn partneriaeth o 95 gyda Dawid Malan.

Ond fe gafodd ei ddal yn gampus yn fuan wedyn wrth yrru’r bêl yn syth i lawr corn gwddf Marchant de Lange ar ochr y goes oddi ar fowlio’r troellwr coes Marnus Labuschagne am 54.

Roedd Dawid Malan newydd gyrraedd ei ganred oddi ar 145 o belenni, gan gynnwys 15 pedwar, pan gafodd Tom Helm ei ddal gan Chris Cooke oddi ar fowlio Lukas Carey i adael Middlesex yn 243 am wyth.

Partneriaeth fawr allweddol

Daeth partneriaeth fwyaf allweddol yr ymwelwyr wedyn, wrth i Dawid Malan a Nathan Sowter ddod ynghyd.

Cyrhaeddodd Nathan Sowter ei hanner canred cyntaf mewn gemau dosbarth cyntaf oddi ar 40 belenni ar ôl taro chwe phedwar a dau chwech.

Aeth y bartneriaeth y tu hwnt i 100 yn fuan wedyn, ond pan oedd Nathan Sowter ar 57, fe fu’n rhaid iddo adael y cae ag anaf.

Cyrhaeddodd Dawid Malan 150 am y trydydd tro y tymor hwn, a hynny oddi ar 189 o belenni, ar ôl taro 21 pedwar a dau chwech, a pharhau i glatsio wnaeth e.

Ond fe yrrodd Tim Murtagh i lawr at Dan Douthwaite ar y ffin ar yr ochr agored oddi ar fowlio Graham Wagg am wyth, a’r sgôr yn 384 am naw.

Ac roedden nhw i gyd allan am 384 pan gafodd Dawid Malan ei ddal gan Marnus Labuschagne oddi ar fowlio Lukas Carey am 166, a Nathan Sowter yn gorffen yn ddi-guro ar 57.

Batiad cyntaf Morgannwg

Pan ddechreuodd Morgannwg eu batiad cyntaf, roedd gan Nick Selman a Charlie Hemphrey naw pelawd i’w hwynebu.

Ond collon nhw bedair wiced cyn diwedd y dydd wrth i Tom Helm waredu un batiwr ar ôl y llall.

Cafodd Nick Selman ei ddal yn y slip gan Dawid Malan am saith, cyn i’r wicedwr John Simpson ddal y noswyliwr Lukas Carey heb sgorio.

Marnus Labuschagne oedd y trydydd batiwr allan, wedi’i fowlio am chwech, a’r sgôr yn 21 am dair, ac fe gipiodd y bowliwr ei bedwaredd wiced wrth fowlio Charlie Hemphrey am bedwar.

Sgorfwrdd