Mae Chris Cooke, capten tîm criced Morgannwg, wedi’i gynnwys yn y garfan ar gyfer y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Middlesex, sy’n dechrau yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 13).

Dydy e ddim wedi chwarae mewn saith gêm ers anafu ei goes yn yr ornest yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghasnewydd ym mis Mai.

Mae Tom Cullen, sydd wedi bod yn cadw wiced yn ei le, hefyd wedi’i gynnwys yn y garfan yn dilyn sawl perfformiad clodwiw gyda’r bat.

Mae Marchant de Lange, y bowliwr cyflym, a’r chwaraewr amryddawn Charlie Hemphrey hefyd wedi’u cynnwys yn y garfan – y naill yn dilyn cyfnod o orffwys, a’r llall yn dilyn genedigaeth ei blentyn.

Yng ngharfan yr ymwelwyr mae’r Cymro a chyn-fowliwr cyflym Morgannwg, James Harris, a Tom Helm, y bowliwr cyflym sydd wedi treulio cyfnod ar fenthyg gyda Morgannwg yn y gorffennol.

Gemau’r gorffennol

Mae Morgannwg, sy’n ail yn ail adran y Bencampwriaeth, yn herio Middlesex sy’n seithfed yn y tabl.

Ond mae ganddyn nhw garfan o chwaraewyr rhyngwladol, ac mae’n argoeli i fod yn gêm anodd i Forgannwg, sy’n ceisio aros yn safleoedd y dyrchafiad ar ddechrau ail hanner y tymor.

Daeth yr ornest ddiwethaf rhwng y ddwy sir yng Nghaerdydd yn 2011 i ben yn gyfartal, ond y Saeson oedd yn fuddugol yn 2010, wrth i Scott Newman sgorio 99 a 64 i helpu’r sir i ennill o chwe wiced.

Mae’r Saeson wedi curo Morgannwg o fatiad a mwy sawl gwaith dros y degawdau diwethaf, yn 1997, 1998 a 2005.

Roedden nhw’n fuddugol o ddeg wiced yn 1993, ac o wyth wiced yn 2002, a dydy Morgannwg ddim wedi eu curo nhw yn y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd ers 28 o flynyddoedd.

Ers hynny, maen nhw wedi colli chwe gwaith ac wedi cael dwy gêm gyfartal.

Morgannwg: C Cooke (capten), N Selman, C Hemphrey, M Labuschagne, B Root, D Lloyd, D Douthwaite, G Wagg, M de Lange, M Hogan, L Carey

Middlesex: D Malan (capten), S Eskinazi, N Gubbins, T Helm, T Murtagh, S Robson, T Roland-Jones, G Scott, J Simpson, N Sowter, R White

Sgorfwrdd