Fe fydd James Foster, cyn-wicedwr tîm criced Lloegr, yn helpu staff hyfforddi Morgannwg yn ystod cystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast.

Fe fydd yn gweithio fel ymgynghorydd arbenigol, ochr yn ochr â’r staff sy’n cael eu harwain gan y prif hyfforddwr Matthew Maynard a’r Cyfarwyddwr Criced Mark Wallace.

Mae ganddo fe lu o brofiad mewn cystadlaethau ugain pelawd yn ei flwyddyn gyntaf ers ymddeol o chwarae, gan weithio yn Bangladesh, Pacistan, Awstralia, Canada, Afghanistan a Lloegr.

Fel chwaraewr, ymddangosodd e mewn 289 o gemau dosbarth cyntaf a 179 o gemau ugain pelawd dros gyfnod o 18 mlynedd gydag Essex, a saith gêm brawf, 11 gêm 50 pelawd a phum gêm ugain pelawd dros Loegr.

Cafodd ei benodi’n gapten ar Essex yn 2010, ac roedd e’n aelod o’r tîm a gipiodd dlws Pencampwriaeth y Siroedd yn 2017.

Yn ystod ei yrfa, cipiodd e 839 o ddaliadau a 62 o stympiadau, gan sgorio mwy na 19,000 o rediadau, gan gynnwys 23 canred ym mhob fformat.

Ymateb i’r penodiad

“Dw i wedi cyffroi o gael gweithio gyda Morgannwg yn eu hymgyrch T20 yn y Vitality Blast, a dw i’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â Matt Maynard, [y capten] Colin Ingram a grŵp talentog Morgannwg,” meddai James Foster.

“Rydyn ni wrth ein boddau o gael dod â James Foster i mewn i roi hwb i’n tîm hyfforddi ar gyfer y Vitality Blast,” meddai Mark Wallace.

“Mae James yn un o’r nifer o hyfforddwyr ifainc sy’n uchel eu parch, ac yntau eisoes wedi gweithio gyda Lloegr, ac mewn cystadlaethau T20 ar draws y byd.

“Mae hwn yn gyfnod da yn ystod y flwyddyn i ddod â llais newydd a syniadau gwahanol i mewn, ac edrychwn ymlaen ato’n ein helpu ni i barhau i wthio datblygiad ein chwaraewyr a’n hyfforddwyr.”