Mae Billy Root, chwaraewr amryddawn tîm criced Morgannwg, wedi cael ei wahardd rhag bowlio am y tro.

Mae ei ddull bowlio’n destun ymchwiliad, sy’n golygu nad oes ganddo fe hawl i fowlio yn y gêm Bencampwriaeth sy’n cael ei chynnal ar hyn o bryd yn Derby.

Mae e wedi cael ei riportio am fod ei fraich yn mynd y tu hwnt i’r 15 gradd sy’n gyfreithlon.

Daeth y gwaharddiad i rym ar Fai 17, ar ôl i asesiad gael ei gynnal ar Fai 8.

Fydd e ddim yn cael bowlio eto hyd nes y bydd e wedi cywiro’i ddull yn ddigonol.

Mae e wedi cipio dwy wiced mewn 17 pelawd yn y Bencampwriaeth, a thair wiced mewn ugain pelawd yng Nghwpan Royal London.