Llwyddodd Michael Hogan, bowliwr cyflym Morgannwg, i gadw ei dîm yn y gêm ar ddiwrnod cynta’r ornest Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Derby yn Derby, fel bo’r Saeson yn dechrau’r ail ddiwrnod ar 253 am bump.

Sgoriodd Luis Reece, batiwr Swydd Derby 111, ei ganred cyntaf ers blwyddyn, ac ychwanegodd Alex Hughes 63 diguro cyn i’r glaw a golau gwael ddod â’r chwarae i ben toc ar ôl te.

Daeth ei fatiad ar ôl dechrau da i Forgannwg, wrth i Michael Hogan gipio dwy wiced am 45 mewn 16 o belawdau, ond bowlio digon anghyson a gafwyd gan y bowlwyr eraill.

Tarodd e goes y capten Billy Godleman o flaen y wiced am 11, a hynny ar ôl curo’i fat sawl gwaith yn y naw pelawd cyntaf.

Ond llwyddodd Luis Reece a Wayne Madsen i achub y batiad i’r tîm cartref, gyda phartneriaeth o 88 am yr ail wiced, cyn i Madsen, yng ngêm rhif 150 i Swydd Derby, gael ei ddal gan y wicedwr Tom Cullen am 37 oddi ar belen ola’r bore.

Swydd Derby’n taro’n ôl

Roedden nhw’n 127 am dair pan roddodd Tom Lace ddaliad syml yn y slip i Charlie Hemphrey oddi ar fowlio Lukas Carey.

Ychwanegodd Luis Reece ac Alex Hughes 104 am y bedwaredd wiced, wrth i Luis Reece daro 111 oddi ar 173 o belenni, gan gynnwys 15 pedwar.

Yn ystod y batiad, fe aeth Alex Hughes y tu hwnt i 3,000 o rediadau dosbarth cyntaf.

Dyma’i ganred cyntaf yn y Bencampwriaeth ers mis Ebrill y llynedd, ac fe ddaeth ar ôl iddo fe sgorio cyfanswm o 49 o rediadau yn ei bedwar batiad blaenorol.

Ond fe gollodd ei wiced toc cyn te, wrth i Jeremy Lawlor gipio daliad yn safle’r goes fain i roi ei wiced gyntaf mewn gêm dosbarth cyntaf i Dan Douthwaite.

Yn y belawd olaf ond un cyn yr egwyl, bowliodd Marnus Labuschagne iorcer at Harvey Hosein a’i fowlio am un yn ei belawd gyntaf, wrth i’r Saeson lithro i 235 am bump.

Bu bron i’r troellwr coes o Awstralia fowlio Matt Critchley yn fuan wedyn, ond cipiodd y Saeson ail bwynt batio toc cyn i’r golau bylu a’r glaw ddod.

Sgorfwrdd