Fe fydd gemau hanesyddol yn cael eu chwarae yn Southampton heddiw (dydd Gwener, Ebrill 19) wrth i dîm cyntaf ac ail dîm Morgannwg herio Hampshire yn yr un lle ar yr un pryd am y tro cyntaf erioed.

Tra bo’r timau cyntaf yn herio’i gilydd mewn gêm 50 pelawd yng Nghwpan Royal London, fe fydd ail dimau’r ddwy sir yn mynd ben-ben mewn gêm gyfeillgar ar y cae drws nesaf.

O safbwynt y tîm cyntaf, tra bod Morgannwg wedi cael crasfa o 180 o rediadau yn erbyn Essex yng Nghaerdydd ddydd Mercher, ennill o 90 rhediad oedd hanes Hampshire yn erbyn Swydd Caint.

Dim ond pump o fatwyr cydnabyddedig Morgannwg sgoriodd ffigurau dwbl, ond fe darodd Sam Northeast 105 i Hampshire, gyda hanner cant yr un i James Vince (56) a Rilee Rossouw (55).

Hampshire gododd Gwpan Royal London yn 2018.

Gemau’r gorffennol

Fe wnaeth Morgannwg eu curo yn yr Ageas Bowl yn 2017, diolch i Colin Ingram sy’n absennol y tro hwn.

Daeth eu buddugoliaeth ddiwethaf cyn hynny mewn gornest 40 pelawd yn 2013, pan gyrhaeddon nhw’r rownd derfynol yn Lord’s.

Serch hynny, mae Hampshire wedi ennill saith allan o’r deg gêm Rhestr A ddiwethaf yn erbyn Morgannwg.

Y tymor diwethaf, heriodd y ddwy sir ei gilydd yn San Helen yn Abertawe, wrth i’r ymwelwyr gipio buddugoliaeth o bedair wiced.

Y timau

Mae Morgannwg a Hampshire wedi enwi’r un chwaraewyr â’r tro diwethaf, wrth i Aneurin Donald baratoi i herio’i hen dîm ar ôl symud i Hampshire yn barhaol y tymor hwn.

Bydd y batiwr ifanc yn awyddus i daro’n ôl ar ôl methu â sgorio yn y gêm gyntaf ar ôl bod allan oddi ar ei ail belen.

Carfan Hampshire: K Abbott, S Northeast, A Markram, R Rossouw, L Dawson, B Taylor, G Berg, C Wood, J Vince (capten), J Fuller, T Alsop, A Donald, M Crane

Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), L Carey, K Carlson, M de Lange, C Hemphrey, M Hogan, M Labuschagne, D Lloyd, C Meschede, B Root, A Salter, T van der Gugten, G Wagg

Sgorfwrdd