Mae tîm criced Morgannwg wedi dioddef eu chweched colled yn olynol yn y Bencampwriaeth, ar ôl i Sir Gaerloyw eu curo o naw wiced yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd.

7.5 pelawd yn unig gymerodd hi i’r ymwelwyr gwrso’r 35 rhediad am fuddugoliaeth, ar ôl i Forgannwg frwydro i sicrhau bod yr ornest yn para tan y diwrnod olaf.

Roedd y Cymry’n 150 am wyth yn eu hail fatiad ar y trydydd diwrnod a dim ond brwydr galed gan y bowlwyr gyda’r bat oedd wedi sicrhau bod Morgannwg wedi gorffen y gêm mewn modd gystadleuol.

Tarodd Timm van der Gugten 58 – ei sgôr gorau erioed – mewn partneriaeth nawfed wiced o 73 gyda Kieran Bull i roi mantais fach o 18 o rediadau i’r Cymry ar drothwy’r diwrnod olaf.

Ymosododd capten Morgannwg, Michael Hogan ar ddechrau’r diwrnod olaf, gan daro dwy ergyd i’r ffin ym mhelawd gynta’r bore oddi ar fowlio Matt Taylor ond fe darodd y bowliwr cyflym llaw chwith yn ôl drwy ei fowlio i gipio’i bumed wiced yn y batiad, a’i seithfed yn y gêm.

Cwrso’n ddi-drafferth

Roedd Morgannwg i gyd allan am 251, ac roedd cwrso 35 am y fuddugoliaeth yn debygol o fod yn dasg hawdd i Sir Gaerloyw yn y pen draw.

Ond wrth amnewid y bat am y bêl, brwydrodd yr Iseldirwr Timm van der Gugten yn galed ym mhelawd gyntaf y batiad wrth daro coes Miles Hammond o flaen y wiced heb sgorio i gipio’i bumed wiced yn y gêm.

Ond roedd y diwedd ar ddod pan darodd Chris Dent bedwar oddi ar Michael Hogan cyn gyrru Timm van der Gugten drwy’r ochr agored am bedwar arall.

Tarodd James Bracey bedwar arall oddi ar ei goesau wrth i Sir Gaerloyw gyrraedd hanner ffordd.

Daeth y fuddugoliaeth cyn diwedd yr wythfed pelawd yn y pen draw, wrth i Chris Dent yrru Michael Hogan am bedwar dros ei ben.

Dadansoddi perfformiad gwael eto fyth

Roedd yr ysgrifen ar y mur i Morgannwg ar y diwrnod cyntaf pan gawson nhw eu bowlio allan am 137 yn eu batiad cyntaf.

Chwalodd y batwyr unwaith eto, rhywbeth sydd wedi digwydd yn rhy aml o lawer y tymor hwn, gyda phedwar batiwr yn unig yn sgorio deg neu fwy o rediadau.

Sgoriodd Sir Gaerloyw 354 yn eu batiad cyntaf – mantais o 217, ac roedd cefnau Morgannwg at y wal erbyn hynny wrth i’w diffyg hyder barhau.

Tarodd James Taylor seithfed canred dosbarth cyntaf ei yrfa mewn partneriaeth o 155 gyda Ben Charlesworth, bachgen  ysgol 17 oed oedd wedi cael ei esgusodi o’i wersi yr wythnos hon ar gyfer y gêm – ei bedwaredd yn unig yn y Bencampwriaeth.

Yn ail fatiad Morgannwg, roedd tri batiwr – Connor Brown, Tom Cullen a Kiran Carlson – allan heb sgorio, a dim ond 20 sgoriodd batiwr tramor y sir, Stephen Cook wrth i’w berfformiadau gwael yntau barhau hefyd yn niwedd y tymor.

Ymateb y prif hyfforddwr

Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd prif hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft, “Mae’r bois yn gweithio’n galed dros ben. Rhaid i ni barhau i wneud hynny.

“R’yn ni o hyd yn eu profi nhw ac yn gweithio gyda nhw ar sut maen nhw’n chwarae ac yn amlwg iawn, dydyn ni ddim cweit wedi’i meistroli’r perfformiadau ar y cae.

“Perfformiad siomedig, felly, ond r’yn ni’n parhau i weithio’n galed.

“Mae rhai chwaraewyr r’yn ni wedi gofyn cryn dipyn ganddyn nhw y tymor yma. Mae pob un chwaraewr, ar ryw adeg neu’i gilydd, wedi chwarae yn y tîm cyntaf oherwydd anafiadau a pherfformiadau ac yn y blaen.

“Yr hyn sy’n rhaid i ni ei wneud yw siarad am hyder, pryd maen nhw wedi chwarae’n dda ac atgyfnerthu hynny oherwydd mae’n hawdd iawn llithro i feddylfryd negyddol.”