Mae tîm criced Morgannwg wedi gorfodi Sir Gaerloyw i fatio eto, ac wedi sicrhau y bydd y gêm Bencampwriaeth yng Nghaerdydd yn para hyd y diwrnod olaf a’u bod nhw’n osgoi colli o fatiad a mwy am y pedwerydd tro eleni.

Pan oedd Morgannwg yn 101 am saith ar y trydydd diwrnod ddydd Mercher, roedd hi’n debygol y byddai’r sir yn wynebu’r hyn y mae gohebydd criced BBC Cymru, Edward Bevan wedi’i ddisgrifio fel “buddugoliaeth o fewn tri diwrnod, taith o 45 munud ar hyd yr M4, a diwrnod haeddiannol o seibiant”.

Ond ar ôl i’r chwaraewr amryddawn o’r gogledd, David Lloyd daro 54, roedd cyfraniadau ychwanegol gan Ruaidhri Smith (30) a Kieran Bull (34) wrth iddyn nhw frwydro’n ôl i 150 am wyth.

Dim ond dwy wiced gollodd Morgannwg yn ystod sesiwn y prynhawn wrth ddechrau brwydro’n ôl.

Daeth y bartneriaeth allweddol am y nawfed wiced, wrth i’r Iseldirwr Timm van der Gugten daro 58 – ei sgôr gorau i Forgannwg – mewn partneriaeth o 73 gyda Kieran Bull, oedd wedi aros wrth y llain am 48 pelawd.

Maen nhw heb fuddugoliaeth ers gêm gynta’r tymor ac mae disgwyl i hynny barhau, wrth iddyn nhw wynebu’r bêl newydd ymhen pum pelawd gyda mantais o 18 rhediad yn unig yn eu hail fatiad.

Torri record

Ar ddechrau’r trydydd diwrnod, roedd yr ymwelwyr yn 284 am chwech – blaenoriaeth batiad cyntaf o 147 gyda phedair wiced yn olynol.

Cawson nhw eu bowlio allan yn y pen draw am 354 – blaenoriaeth batiad cyntaf o 217 – ar ôl i Jack Taylor (112) a Ben Charlesworth (72) dorri record Sir Gaerloyw am y bartneriaeth fwyaf yn hanes y sir (155) am y seithfed wiced.

Fe wnaethon nhw dorri record Alf Dipper ac Albert Waters o 145, a gafodd ei gosod 95 o flynyddoedd yn ôl yn Cheltenham.

Yn ystod ei fatiad, sgoriodd Jack Taylor ei seithfed canred dosbarth cyntaf i’r sir, ond fe ddaeth ei bartneriaeth â Ben Charlesworth i ben pan gafodd y llanc 17 oed – sydd wedi’i esgusodi o’r ysgol yr wythnos hon – ei ddal yn y slip gan Kieran Bull oddi ar fowlio Michael Hogan.

Jack Taylor oedd y batiwr nesaf allan, wedi’i ddal gan y wicedwr Chris Cooke am 112 – batiad a barodd 214 o belenni, wrth iddo daro 14 pedwar ac un chwech. Cipiodd Timm van der Gugten ei bedwaredd wiced, gan orffen y bore gyda dwy wiced am 12 mewn deg pelawd – a chwech ohonyn nhw’n belenni di-sgôr.

Dechrau’r diwedd i Forgannwg…

Collodd yr ymwelwyr eu dwy wiced olaf am 47, gan orfodi Morgannwg i wynebu pedair pelawd cyn cinio, 217 o rediadau ar eu hôl hi, ac yn wynebu’r posibilrwydd o golli’r ornest cyn diwedd y dydd.

Ar ôl cipio pedair wiced yn y batiad cyntaf, cipiodd Craig Miles dair wiced o fewn deg pelen – gan gynnwys dwy mewn un belawd – heb ildio’r un rhediad wrth i’r Cymry adael y cae amser cinio ar chwech am dair.

Erbyn hynny, roedd Morgannwg wedi colli Connor Brown, Tom Cullen a Kiran Carlson heb fod yr un ohonyn nhw wedi sgorio’r un rhediad.

Y batiwr tramor o Dde Affrica, Stephen Cook (20) oedd y batiwr nesaf allan, wedi’i ddal gan y wicedwr Gareth Roderick oddi ar fowlio Craig Miles. Mae’r batiwr bellach wedi sgorio 45 rhediad yn unig mewn pedwar batiad.

… ond nid heb frwydr

Tarodd David Lloyd 54 oddi ar 59 o belenni wedyn, wrth daro naw pedwar, ond collodd Chris Cooke a Graham Wagg eu wicedi o fewn dim o dro, wrth i Forgannwg lithro i 101 am saith.

Ychwanegodd Ruaidhri Smith a David Lloyd 49 am yr wythfed wiced cyn i Ruaidhri Smith gael ei ddal gan y wicedwr Gareth Roderick oddi ar fowlio Matt Taylor ar ôl bod  yn ymosod gan daro saith pedwar.

Dyna pryd y daeth Timm van der Gugten a Kieran Bull ynghyd i sicrhau y byddai’n rhaid i Sir Gaerloyw aros yn y brifddinas am bedwerydd diwrnod – ond am ba hyd sy’n gwestiwn arall.

Mae Craig Miles a Matt Taylor wedi cipio pedair wiced yr un hyd yn hyn, a bydd hi’n ras rhwng y ddau i gipio’r bumed werthfawr.

Bydd y Cymry’n ailddechrau ar 235 am naw, 18 rhediad ar y blaen i Sir Gaerloyw, a Timm van der Gugten wrth y llain ar 58 gyda’i gapten Michael Hogan ar wyth.