Mae troellwr Morgannwg, Andrew Salter yn dweud bod treulio’r gaeaf yn Seland Newydd fel rhan o raglen dramor Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wedi ei helpu i ddeall ei fowlio’n well ar drothwy’r tymor newydd.

Roedd y troellwr o Sir Benfro yn un o ddau droellwr o siroedd Cymru a Lloegr a gafodd eu dewis – ynghyd â Brad Taylor o Swydd Hampshire – i hogi eu sgiliau o dan hyfforddiant y troellwr rhyngwladol a chapten Swydd Warwick, Jeetan Patel.

Dywed Andrew Salter ei fod e “wrth ei fodd” ar ôl cael cynnig gan brif hyfforddwr troellwyr Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, Peter Such i fynd i Wellington a lleoli ei hun gyda thîm y Firebirds yn ystod y gaeaf, a chwarae i glwb Johnsonville ochr yn ochr ag un o fawrion y clwb, y batiwr rhyngwladol Luke Woodcock.

Wedi’i leoli yn stadiwm y Basin Reserve, dywed Andrew Salter ei fod yn “wych cael tynnu ar wybodaeth Jeetan” a bod ganddo fe “ddiddordeb gweld sut mae’r meistr ei hun yn mynd o gwmpas ei bethau”.

‘Deall bowlio’n well’

Ac mae’r troellwr 24 oed yn dweud ei fod yn “deall bowlio ychydig yn well” ar drothwy’r tymor newydd, sy’n cynnwys gwybod pam ei fod e’n bowlio cystal, “ac os yw’n mynd o’i le, y rhesymau am hynny”. Mae’n dweud bod deall ei ddull bowlio hefyd yn “wers fawr”.

Roedd chwarae i dîm Johnsonville bob dydd Sadwrn wedi rhoi’r cyfle iddo roi’r hyn roedd e wedi’i ddysgu ar waith mewn gemau, ac mae’n dweud iddo adael y clwb yn llawn boddhad yn sgil ei berfformiadau, oedd yn cynnwys batiadau o 94 heb fod allan ac 80 heb fod allan, a phum wiced mewn batiad gyda’r bêl.

“Roedd wythnos arferol yn golygu dwy sesiwn gyda Jeetan ac ar y dydd Sadwrn, byddai’n fater o roi cynnig ar ambell beth a gweld beth fyddai’r canlyniadau. Fyddai popeth ddim yn llwyddo bob wythnos, ond dyna’r bwriad, sef deall y rhesymau pam. Felly roedd yn wych cael y cyfle i chwarae bob dydd Sadwrn.”

Cyfnod yn Awstralia hefyd

Ar ôl treulio gaeafau blaenorol yn Awstralia, dyma gyfnod cyntaf Andrew Salter yn Seland Newydd. Ychydig iawn o saib gafodd e cyn i Forgannwg deithio i Dubai i baratoi ar gyfer y tymor newydd ar laswellt.

Tra ei fod yn edrych ymlaen at haf arall o griced yng Nghymru a Lloegr, mae Andrew Salter yn dweud nad oes ganddo fe “amcanion personol penodol” ond “os yw’r broses yn gywir, bydd y canlyniadau’n gofalu amdanyn nhw eu hunain”.

Fe fydd cyfle cyntaf Andrew Salter i roi ei wybodaeth newydd ar waith mewn gêm dosbarth cyntaf yn dod yn erbyn Prifysgolion Caerdydd yr MCC yng ngêm gynta’r tymor ar y Swalec ar Ebrill 13.