Wrth i dîm criced Lloegr wynebu colli prawf cyntaf Cyfres y Lludw yn erbyn Awstralia ar gae criced y Gabba yn Brisbane ar y diwrnod olaf yfory, mae adroddiadau bod un o’u chwaraewyr wedi taro gwrthwynebydd â’i ben mewn bar fis diwethaf.

Yn ôl gwefan newyddion 9news yn Awstralia, roedd ffrwgwd rhwng wicedwr Lloegr Jonny Bairstow a batiwr Awstralia Cameron Bancroft yn Perth.

Yn ystod y ffrwgwd, mae’n debyg bod y Sais wedi defnyddio’i ben i ymosod ar yr Awstraliad.

Mae lle i gredu bod y chwaraewyr wedi crybwyll y ffrwgwd yn ystod y gêm sy’n cael ei chynnal yn Brisbane ar hyn o bryd.

Dydy Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) na Bwrdd Criced Awstralia ddim wedi gwneud sylw hyd yn hyn.